Mae Girlguiding Cymru a Sustrans wedi partneru i lansio bathodyn hollol newydd, yr her Anturiau Llesol, sy'n ceisio annog pobl ifanc i fod yn fwy actif. Bydd merched o bob oedran yn medru cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol sy'n mynd i'w helpu i gerdded, olwyno, a beicio'n fwy aml, yn ogystal ag archwilio'u hamgylcheddau lleol a datblygu sgiliau newydd.
Aeth Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, i ddathlu'r digwyddiad lansiad efo 2ail Guides Y Drenewydd yng nghartref Girlguiding Cymru yn Llandinam.
Mae Sustrans Cymru’n falch i bartenrio â Girlguiding Cymru er mwyn helpu annog cenedlaethau’r dyfodol i gerdded, olwyno, a beicio’n fwy aml.
Bydd bathodyn Anturiau Llesol newydd yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc yn Rainbows, Brownies, Guides, a Rangers ar draws Cymru i archwilio’u hardaloedd lleol, i gael mwy o ymarfer corff, ac i ddatblygu eu sgiliau.
Gall pob grŵp dewis i gyflawni rhwng pump a saith o weithgareddau i ennill y bathodyn hollol newydd, gan ddatblygu sgiliau ac annog plant a phobl ifanc i fwynhau bod yn yr awyr agored.
Roedd 2ail Guides Y Drenewydd yn gyffrous iawn i weld y pecyn a chymryd rhan yn lansiad her yr Anturiau Llesol.
Mae'r her Anturiau Llesol newydd yn mynd i annog pobl ifanc i fod yn heini a datblygu sgiliau newydd, megis sgiliau cynnal a chadw beiciau sylfaenol.
Gweithgareddau newydd i helpu datblygu sgiliau ac annog amser yn yr awyr agored
Mae’r gweithgareddau wedi cael eu grwpio mewn i gategorïau sy’n ceisio cefnogi a datblygu plant a phobl ifanc wrth iddynt deithio’n fwy llesol, gan gynnwys:
- Dechrau eich her
- Tips a thriciau beicio
- Iechyd ac hapusrwydd
- Amddiffyn y blaned
- Pencampwyr teithio llesol
Mae’r rheini’n cynnwys cyfeiriadu, creu ffordd, cynnal a chadw beiciau, trwsio tyllau, sgiliau defnyddio beiciau, troeon ymwybyddiaeth ofalgar, casglu sbwriel, ac heriau teithio llesol.
Dwedodd Bev Martin, Prif Comisiynydd Girlguiding Cymru:
“Rydym wrth ein bodd i fod yn partneru efo Sustrans Cymru ar y pecyn her Anturiau Lleol newydd yma!
“Mae’n cyfle cyffrous i aelodau Girlguiding fforio’r awyr agored, darganfod llefydd newydd, a datblygu eu hysbrydion anturus.
“Mae’r pecyn yn cynnig amrediad o weithgareddau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol, yn ei wneud yn cynhwysol a deniadol i bawb.
Ychwanegodd Sarah-Jane Burns, Is-brif Comisiynydd ac Arweinydd Chwaraeon Girlguiding Cymru:
“Rydym yn gyffrous i fod yn lansio’r partneriaeth newydd yma sy’n annog ein aelodau i feddwl am sut y gallant cael antur llesol.
“Mae ein aelodau’n mwynhau anturiau, yn enwedig pan eu bod nhw’n cynnwys bod yn actif ac helpu’r amgylchedd.
“Edrychwn ymlaen at weld a chlywed popeth am eu hanturiau!”
Cafodd aelodau'r 2ail Guides Y Drenewydd digwyddiad lansiad i ddathlu'r bathodyn Anturiau Llesol newydd.
Rhannu mewn manteision teithio'n llesol ac ymarfer corff
Mae teithio’n llesol wedi dangos ei fod yn wych ar gyfer ein iechyd meddyliol a chorfforol, a gall teithio annibynnol ymhlith pobl ifanc helpu i adeiladu hyder a datblygu sgiliau cymdeithasol.
Gall cerdded, olwyno, a beicio cynyddu bywiogrwydd meddyliol, egni, hwyl positif, ac hunan-barch, yn ogystal â lleihau straen a phryder ymhlith plant a phobl ifanc.
Yn siarad am y menter newydd, dwedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:
“Rydym yn gyffrous iawn ac yn falch i bartneru â Girlguiding Cymru ac i helpu annog merched o bob oedran i gerdded, olwyno, a beicio.
“Yn dilyn o’r gwaith gwych a gafodd ei wneud gan ein cydweithwyr yn Yr Alban, roeddem am weld yr un cyfleon yma yng Nghymru.
“Mae’r bathodyn Anturiau Lleol newydd wedi cael ei ddylunio i annog merched a menywod ifanc i ymgysylltu â natur, i fod yn actif, ac i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, sy’n bendigedig.
“Gobeithiwn bydd y cyfle yma’n annog merched i ddod yn fwy ymwybodol o’u modd o deithio a byddant yn gwneud penderfyniadau sy’n dda ar gyfer pobl a’r planed.”