Ein gwaith gydag ysgolion yng Nghymru

Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy’n ei gwneud hi’n haws i blant gerdded neu deithio ar olwynion, sgwter neu feic.

Nod ein gwaith gydag ysgolion yng Nghymru yw hybu gweithgarwch corfforol, lleihau tagfeydd, a gwella diogelwch o amgylch ysgolion.

Mae teithio llesol i’r ysgol yn arwain at well ymddygiad, lefelau canolbwyntio uwch a llesiant cyffredinol y disgyblion.

Mae ein profiad yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud gydag oddeutu 1,000 o ysgolion a 160,000 o ddisgyblion ledled Cymru a’r DU bob blwyddyn.

Mae ein swyddogion ysgol ymroddedig yn cydweithio’n agos ag athrawon, myfyrwyr a rhieni, gan feithrin diwylliant o deithio llesol o fewn yr ysgolion.

Gadewch i ni roi hwb i deithio llesol yn eich ysgol chi, gan greu diwylliant o lesiant a diogelwch ar draws y gymuned.

Ymunwch â ni ar y daith i drawsnewid tirwedd teithio eich ysgol.

An image of school children riding scooters, wearing helmets, in an urban setting.

Cynllunio teithio llesol i’r ysgol

Mae’r fenter hon yn rhoi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar eich ysgol i ysgrifennu cynllun teithio llesol ar gyfer eich ysgol.

Datblygwch gynllun cryno i wella mentrau teithio llesol eich ysgol, gan greu amgylchedd hapusach ac iachach i gymuned yr ysgol.

Cewch fynediad at gyfleoedd cyllido a gwella diogelwch wrth hyrwyddo gweithgarwch corfforol a llesiant. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Meithrin sgiliau

Mae ein rhaglen Teithiau Llesol yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, i greu diwylliant sy’n ei gwneud yn haws i blant gerdded, neu deithio ar olwynion, sgwter neu feic.

Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac arweiniad i ysgolion gan gynnwys gweithgareddau newid ymddygiad, hyfforddiant sgiliau beicio a reidio sgwter, gwersi sy’n canolbwyntio ar deithio llesol, cymhellion i gymuned yr ysgol sy’n hyrwyddo cerdded a theithio ar olwynion, ar feic ac ar sgwter a llawer mwy.

Gwobrwyo a dathlu

Mae Gwobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans yn dathlu ac yn cydnabod ysgolion yng Nghymru sy’n mynd ati i hyrwyddo cerdded a theithio ar olwynion, ar feic ac ar sgwter.

Cofrestrwch eich ysgol heddiw a gweithio tuag at achrediad Efydd, Arian neu Aur drwy wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer dyfodol mwy llesol a chynaliadwy i’ch ysgol a’ch cymuned.

A group of people stand in front of a lattice gate across a road, which forms a temporary closure for cars during school drop-off and pick-up times. The sun is shining, the people are smiling and the mood is happy.

Creu llwybrau diogel i’r ysgol

Mae ein rhaglen Strydoedd Ysgol yn mynd i’r afael â’r pryderon ynghylch tagfeydd, ansawdd aer gwael a diogelwch ar y ffyrdd y mae llawer o ysgolion yn eu profi.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gyfyngu ar draffig moduron wrth gatiau’r ysgol am gyfnod byr, yn gyffredinol ar amseroedd gollwng a chasglu teithwyr.

Dysgwch sut gallwn ni gefnogi eich ysgol neu’ch awdurdod lleol i dreialu a rhoi Stryd yr Ysgol ar waith yn eich ardal chi.

Ysgogi cymuned eich ysgol

Beth am gychwyn menter teithio llesol yn eich ysgol ac annog plant i deithio i'r ysgol ac oddi yno mewn ffordd iach, gydag un o’n digwyddiadau cenedlaethol a chystadlaethau i ysgolion.

Cofrestrwch eich ysgol ar gyfer her Stroliwch a Roliwch Sustrans, sef her fwyaf y DU i annog pawb i gerdded, neu deithio ar olwynion, ar sgwter neu ar feic.

Gallwch hefyd annog eich ysgol i gadw'n heini gyda'r Wythnos Beicio i'r Ysgol a gynhelir bob blwyddyn.

Young boy cycling around cones in playground.

Adnoddau teithio llesol a Chwricwlwm Cymru

Porwch drwy ein hadnoddau rhad ac am ddim er mwyn i chi gyflwyno teithio llesol i’ch ystafell ddosbarth, yn unol â Chwricwlwm newydd Cymru.

Mae’r adnoddau’n cynnig cymorth defnyddiol a gweithgareddau ymestyn camau cynnydd sy’n caniatáu i bob athro deilwra cynnwys ar gyfer yr holl ddisgyblion yn eu dosbarthiadau.

Porwch drwy ein hadnoddau rhad ac am ddim i gael rhagor o wybodaeth.

Ein gwaith yng Nghymru

Darparwyd dros 950 o weithgareddau gydag ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cefnogodd gweithgareddau Sustrans dros 100 o ysgolion yng Nghymru.

Llwyddwyd i gyrraedd dros 29,000 o ddisgyblion, staff a rhieni gyda’n gweithgareddau.

Mae ein gweithgareddau’n cael eu darparu mewn 20 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am yr effaith rydyn ni'n ei chael ar ysgolion yng Nghymru