Pum cam Sustrans i wella ein cymdogaethau, ein hiechyd a’r economi

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig i roi cerdded a beicio wrth galon ei chynlluniau ar gyfer dyfodol tecach ac iachach.

Mae pobl eisiau cerdded, olwyno a beicio mwy ar eu teithiau bob dydd.

Ond mae palmentydd anhygyrch, strydoedd anniogel, cysylltiadau gwael â thrafnidiaeth gyhoeddus, a chostau perchnogaeth beic yn eu dal yn ôl.

Mae hynny’n newyddion drwg i iechyd pobl, i’r llefydd maen nhw’n byw ac i’n heconomi.

Gallai Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth ag arweinwyr lleol, newid hynny mewn pum cam yn unig:

Dysgwch beth allwch chi ei wneud i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

Jakir, athro Addysg Gorfforol o Tower Hamlets

Os nad yw rhieni wedi cael unrhyw brofiad o feicio na hyfforddiant beicio yn eu bywyd, yna mae’r ofnau hyn ynghylch bod ar feic yn cael eu trosglwyddo’n naturiol i’w plant. Nid yw rhai rhieni’n deall manteision beicio. Ac nid yw cael beic yn y lle cyntaf yn hawdd yn ariannol.

Dyna pam mae hyfforddi a chael hwyl ar feic mor bwysig yn y blynyddoedd cynnar hynny. Mae’n eich paratoi ar gyfer bywyd.

Mae mor bwysig bod ysgolion yn parhau i annog a chymell plant a’u rhieni i feicio a cherdded mwy.

Mae bod yn egnïol yn cael effaith mor gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorfforol – sy’n fuddiol ar gyfer dysgu hefyd.

 

Beth allwch chi ei wneud

A ydych am sicrhau bod Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn ymrwymo i wella ein cymdogaethau, ein hiechyd a’r economi drwy ei gwneud yn haws cerdded, olwyno a beicio?

Cysylltwch â’r ymgeiswyr yn eich etholaeth.

Gofynnwch iddyn nhw roi cerdded a beicio wrth galon eu cynlluniau ar gyfer eich ardal chi drwy addo cefnogaeth i’n pum cam.

Gallwch anfon e-bost atynt. Gallwch gysylltu â nhw ar Twitter, Instagram neu Facebook. Gallwch hyd yn oed ysgrifennu llythyr atynt neu siarad â nhw pan fyddant yn curo ar eich drws. Mae’r cyfan yn cyfrif.

Cewch wybod pwy sy'n sefyll a sut i gysylltu â nhw drwy roi eich cod post ar wefan 'Who can I vote for'.