Sut gallwn ni ei gwneud yn haws i bawb gerdded, olwyno, a beicio yng Nghymru?

Rydym newydd gyhoeddi ein pum cam i wella ein cymdogaethau, ein hiechyd a’r economi ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Mae trafnidiaeth wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae gan yr Aelodau Seneddol a gaiff eu hethol yng Nghymru ran bwysig i’w chwarae os ydym am ddatgloi’r potensial ar gyfer mwy o gerdded, olwyno a beicio.

Mae hyn yn cynnwys gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol a chefnogi cynnydd ledled y Deyrnas Unedig.

  

Pam mae hyn yn bwysig yng Nghymru

Mae pobl yn cefnogi ei gwneud yn haws i bobl gerdded, olwyno a beicio ar gyfer mwy o siwrneiau.

Er enghraifft, fe arolygwyd pobl yng Nghaerdydd gan ein Mynegai Cerdded a Beicio 2023.

Canfu fod 54% o bobl yn cefnogi symud buddsoddiad o adeiladu ffyrdd i gefnogi cerdded ac olwyno, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, fel bod gan bobl fwy o ddewis ynghylch sut maen nhw’n teithio.

Yn y cyfamser, mae goruchafiaeth ceir ar ein strydoedd yn aml yn atal plant yng Nghymru rhag cael plentyndod iach a gweithgar.

Mae yna ddiffyg lleoedd diogel i blant chwarae ynddynt ac mae llwybrau beicio di-draffig iddynt feicio ar eu hyd yn rhy brin.

Yng Nghaerdydd, dim ond 31% o bobl sy’n dweud bod eu strydoedd yn ddiogel i blant gael beicio.

Ein pum cam

Mae pobl eisiau cerdded, olwyno a beicio rhagor o’u siwrneiau bob dydd.

Ond mae palmentydd anhygyrch, strydoedd anniogel, cysylltiadau gwael â thrafnidiaeth gyhoeddus, a chostau perchnogaeth beic yn eu dal yn ôl.

Mae hynny’n newyddion drwg i iechyd pobl, i’r lleoedd y maent yn byw ynddynt, ac i’n heconomi.

 

Gallwn newid hynny os gwnawn ni:

  1. Gwneud ein strydoedd yn ddiogel i blant
  2. Rhoi mynediad i feic i bawb
  3. Adeiladu datblygiadau lle mae’r holl hanfodion yn agos
  4. Gwneud i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol weithio i bawb
  5. Creu strategaeth drafnidiaeth sy’n gweithio i bawb

Sut gallwn wneud hyn yng Nghymru

Mae ein pum cam yn bwysig ble bynnag y bo pobl. Yng Nghymru, dyma sut gall Aelodau Seneddol ein helpu i’w cyflawni:

 

Cefnogi'r Rhaglen Teithiau Iach

Ariennir ein Rhaglen Teithiau Iach gan Lywodraeth Cymru ac mae’n helpu plant ledled y wlad deithio i’r ysgol yn ddiogel, yn rhwydd, ac yn hyderus drwy gerdded, beicio a sgwtera.

Yn 2021-22, cynyddodd y nifer o blant sy’n cerdded, olwyno neu feicio i’r ysgol gan 24.6% mewn ysgolion sy’n rhan o’r rhaglen, a lleihaodd defnydd ceir gan 29.9%.

Dylai Aelodau Seneddol gefnogi’r rhaglen hon er mwyn inni allu rhoi’r cyfle hwn i gymaint o blant â phosibl yn y dyfodol.

 

Gwthio am weithredu di-oed ar barcio ar balmentydd

Dylai fod gan gynghorau’r pwerau i atal cerbydau rhag parcio ar balmentydd.

Byddai hynny nid yn unig yn helpu plant fynd o le i le, byddai’n helpu holl gerddwyr, yn arbennig pobl anabl.

Mae dau draean o oedolion yn cefnogi atal parcio ar balmentydd – byddai hwn yn gam cyflym ymlaen poblogaidd.

Roedd Sustrans yn aelod o Dasglu Parcio ar y Palmant Cymru, tasglu annibynnol a sefydlwyd yn 2019 gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â pharcio gwrthgymdeithasol ar balmentydd yn ein cymunedau.

Casgliad adroddiad y Tasglu oedd bod parcio ar balmentydd yn broblem ddifrifol ledled Cymru ac y dylai’r Llywodraeth gymryd camau i ddelio â hynny fel mater o frys.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr adroddiad ac ymrwymodd i ymgynghori a chyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd 2023.

Yn nes ymlaen, gohiriwyd dechrau’r ymgynghoriad hyd 2024.

Dylai Aelodau Seneddol bwyso ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar gynigion parcio ar y palmant a deddfu cyn gynted â phosibl, a phleidleisio dros gefnogi mynd i’r afael â pharcio ar y palmant ledled y Deyrnas Unedig.

Cefnogi cynghorau i weithredu i wneud strydoedd yn ddiogel i blant

Dylai pob rhiant allu gadael i’w plant chwarae, cwrdd â ffrindiau a mynd o le i le yn eu cymdogaeth heb boeni am beryglon gan draffig.

Gall plentyndod iach a gweithgar arwain at oes o fuddion iechyd, o well iechyd meddwl i lefelau is o ordewdra.

Gydag anghydraddoldebau iechyd yn lledaenu ledled Cymru, mae angen inni roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

Mae cynghorau ledled Cymru’n gweithredu i wneud ein strydoedd yn fwy diogel: yn creu llwybrau diogel i’r ysgol, yn rhoi ‘Strydoedd Ysgol’ ar waith ac yn lleihau cyflymder ar y ffyrdd.

Mae gan Aelodau Seneddol ran allweddol i’w chwarae mewn gwneud llwyddiant o’r rhain, drwy wneud yn siŵr bod eu hetholwyr yn gwybod amdanynt, drwy hyrwyddo’r manteision a bwydo’n ôl lle mae angen gwneud newidiadau.

 

Hyrwyddo'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn drysor cenedlaethol hynod sy’n cysylltu pobl a lleoedd ar draws Cymru, yn ymestyn mwy na 1,600 o filltiroedd drwy bob etholaeth, ac mae bron i 60% o’r boblogaeth yn byw o fewn milltir iddo.

Mae’n ffynhonnell llesiant heb ei ail, yn lle i bobl fod yn egnïol, yn lle i gymdeithasu ac i gael mynediad at fannau gwyrdd.

Mae gennym uchelgais i barhau i’w wella a’i ehangu ymhellach.

Mae cynnal y Rhwydwaith sydd gennym eisoes yn her.

Ar hyd ei filltiroedd lawer, mae gennym gynefinoedd naturiol, seilwaith hanesyddol, a thirwedd heriol.

Rydym am ei wneud yn fwy hygyrch i bawb, yn fwy cydnerth ac yn fwy bioamrywiol.

Gall Aelod Seneddol helpu mwy o bobl brofi manteision y Rhwydwaith drwy gefnogi’r achos dros gynnal a chadw’r llwybrau hyn a hyrwyddo gwerth y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

Symud mwy o adnoddau tuag at deithio llesol

Mae’r ariannu yng Nghymru i helpu mwy o bobl gerdded, olwyno a beicio wedi cynyddu’n sylweddol ers 2018, pan sefydlwyd y Gronfa Teithio Llesol, a gosodwyd targed ariannu ar gyfer teithio llesol o hyd at £20 y pen.

Fodd bynnag, nid yw’r ariannu hyn yn mynd mor bell ar ôl blynyddoedd o chwyddiant.

Yn yr Alban, mae gwariant wedi cynyddu’n sylweddol gynt nag yng Nghymru, a saif nawr ar £58 y pen ar gyfer teithio llesol.

Gall Aelodau Seneddol Cymru gefnogi teithio llesol drwy alw ar i fuddsoddiad trafnidiaeth yn eu hetholaethau gael ei symud tuag at gerdded, olwyno, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Yn arbennig, dylent noddi cynigion Cronfa Ffyniant Bro sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded, olwyno neu feicio.

Mae etholaethau hefyd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, felly gall Aelodau Seneddol dynnu arweinwyr lleol ynghyd i sicrhau bod rhwydweithiau teithio llesol rhanbarthol yn cael eu datblygu.

Llwythwch i lawr ein maniffesto ar gyfer yr etholiad

Darllenwch fwy am y pum cam rydym yn galw ar lywodraeth nesa'r DU i gymryd er mwyn ei gwneud yn haws i bawb cerdded, olwyno, a beicio.

 

Llwythwch i lawr ein maniffesto.