Wnaethoch chi fethu manteisio ar Wythnos 3 gweithgareddau TuFasTuFewnSustrans? Dyma gyfle arall.
Ysgrifenna gerdd acrostig wedi’i hysbrydoli gan dy hoff ddull o deithio i’r ysgol.
Beth yw cerdd acrostig?
Cerdd acrostig yw un sy’n defnyddio llythyren gyntaf bob llinell i sillafu gair, neges neu’r wyddor ar i lawr.
Caiff llinellau’r gerdd odli, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud.
Bydd angen:
Cyfarwyddiadau
Dewisa dy hoff ddull o deithio i’r ysgol ac ysgrifenna gerdd acrostig.
Defnyddia eiriau fel cerdded, sgwtera neu beicio – galli ddewis dy hoff ddull teithio a rhoi cynnig arni.
Beth am rannu dy gerddi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans a thagio @Sustrans yn dy straeon?
Mae sgwtera’n ffordd wych o wella dy gydbwysedd a chydsymudiad, ac yn bwysicach na dim, mae’n llawn hwyl.
Galli ddarllen ein canllaw ar ddysgu sgwtera’n ddiogel a diweddaru dy wybodaeth yma.
Bydd angen
Cyfarwyddiadau
1. Ysgrifenna bob un o’r sgiliau isod ar ddarnau gwahanol o bapur:
2. Plyga’r papurau fesul un a’u rhoi yn y bowlen.
3. Dewisa un darn o bapur ar y tro a rhoi cynnig ar y sgil honno.
Os rwyt ti’n dysgu sgil newydd am y tro cyntaf, cymer bwyll a chymer dy amser.
Beth am herio rhywun yn y tŷ i Gystadleuaeth Sgwtera? Galli roi pwynt i bob sgil yn dibynnu pa mor anodd yw’r sgil honno. E.e. Stopio = 1 pwynt, Sbonc = 10 pwynt.
Tybed sawl pwynt all pob un ohonoch ei sgorio?
Mae beiciau wedi siapio a newid ein byd ers mwy na 200 mlynedd.
Rhoddodd beiciau’r rhyddid inni deithio ymhellach, gwisgo’n wahanol a nawr, gall beicio ein helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rho dy het dditectif am dy ben ac ateb y cwestiynau isod i fod yn Bencampwr Beic Sustrans.
Bydd angen
Dyma dy gwestiynau Pencampwr Beicio.
Bydd angen iti ddefnyddio’r we i ddod o hyd i’r atebion felly cofia wneud yn siŵr dy fod yn cael caniatâd.
1. Sawl beic sy’n cael eu defnyddio rownd y byd?
a) 12 miliwn
b) 1-2 biliwn
c) 5 biliwn
2. Ym mha wlad mae’r nifer fwyaf o feicwyr fesul pen o’r boblogaeth(fesul person)?
3. Sut mae dweud “Beic” mewn iaith arall?
Galli ddefnyddio geiriadur neu feddalwedd cyfieithu ar-lein i dy helpu. Galli wrando ar y geiriau trwy glicio’r eicon corn sain ac ymarfer eu dweud ar lafar.
Iaith |
Cyfieithiad |
Cymraeg |
Beic |
Saesneg |
|
Swahili |
|
Sbaeneg |
|
Ffrangeg |
|
Iseldireg |
|
Tsieinëeg |
|
4. Dyfeisiwyd y ‘dandy horse’ dros 200 mlynedd yn ôl (1817) yn yr Almaen, ac ystyrir mai hwn oedd y “beic” llwyddiannus cyntaf.
Pa wahaniaethau sydd rhwng y dandy horse a beic cyfoes?
5. Dyluniwyd y beic Brompton yn 1975 gan ddyfeisiwr Prydeinig.
Beth sy’n gwneud beiciau Brompton yn wahanol i feiciau eraill?
6. Pwy sy’n dal y Guinness World Record am feicio rownd y byd mewn 79 diwrnod (gyda chefnogaeth) a 125 diwrnod (heb gefnogaeth)?
7. Mae defnyddio beiciau i fynd o A i B yn beth cyffredin.
Alli di ddod o hyd i bump peth gwahanol y gellir eu defnyddio i’w gwneud o gwmpas y byd?
8. Gwranda ar y gân Bicycle Race gan Queen.
Sawl gwaith mae’r gân yn dweud ‘bike’ a ‘bicycle’?
Gweithgaredd 1: Ystumiau a theimladau
Gall gwneud ystumiau hwyliog wneud inni deimlo’n gryf, yn ddewr ac yn hapus.
Dewisa fan distaw a chyfarwydd a rho gynnig ar ystum o’r rhestr ganlynol:
Sut roeddech chi’n teimlo wrth wneud yr ystumiau hyn? Mae’n syndod sut gall gwneud ystum fel un o’r rhain ambell waith wneud ichi deimlo.
Gweithgaredd 2: Synhwyrau Spidey
Synhwyrau Spidey yw’r synhwyrau arogli, gweld, clywed, blas a chyffyrddiad y mae Spiderman yn eu defnyddio i gadw golwg ar y byd o’i amgylch.
Wrth fynd am dro heddiw, gofynna i’r teulu ddefnyddio eu synhwyrau Spidey. Gofynna iddyn nhw ddefnyddio pob un o’u synhwyrau i sylwi ar beth sydd o’u cwmpas.
Ar ôl bod am dro, beth am drafod beth wnaethoch chi sylwi arno nad ydych chi’n arfer sylwi arno?
Mae hwn yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar sylfaenol iawn ac mae’n annog pobl i sylwi ac i fod yn chwilfrydig, sgiliau gwych i unrhyw un eu hymarfer.
Gweithgaredd 3: Jar llwch llachar
Cyfarwyddiadau
Meddylia am sut mae dy feddyliau’n debyg i’r llwch llachar.
Pan fo’r llwch llachar yn setlo i waelod y jar, mae’r meddwl yn setlo hefyd.
Amser meddylgar
Ym mha ffyrdd fydd yr ymarferion hyn yn dy helpu i fod yn fwy ymwybodol pan fyddi’n cerdded, beicio neu’n sgwtera?
Cyfarwyddiadau
Mae prif weinidog y Deyrnas Unedig wedi gofyn yn ddiweddar i’r awdurdodau lleol sy’n edrych ar ôl ein cymdogaethau i’w gwneud yn hawdd i bobl gerdded a beicio tra’r ydym yn ceisio cadw pellter rhyngom ni a phobl eraill.
Dyma rai esiamplau o bethau sy’n cael eu hannog:
1. Meddylia am beth fyddai’r help mwyaf i bobl deithio’n ddiogel yn dy gymdogaeth di neu o gwmpas dy ysgol.
2. Rho dy god post yn y wefan on: www.writetothem.com (gofynna i oedolyn os nad wyt ti’n gwybod beth yw dy god post).
Mae hwn yn rhoi rhestr iti o’r bobl sy’n dy gynrychioli yn y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys:
3. Dewisa gynrychiolydd i ysgrifennu atynt a’u hannog i wneud y newid hwnnw. Cofia gynnwys pwy wyt ti, beth rwyt ti ei eisiau, a pham rwyt ti eisiau hynny. Galli ddefnyddio’r wefan neu bapur a phensil.
Galli weld y newidiadau sy’n digwydd eisoes ar fap Space to Move Sustrans.
Language |
Translation |
Welsh |
Beic |
English |
Cycle |
Swahili |
baiskeli |
Spanish |
una bicicleta |
French |
un velo |
Dutch |
een fiets |
Chinese |
Yi liang zicngche |