Ymchwil, monitro a gwerthuso

Rydym yn arbenigo mewn teithio llesol, gan gyflwyno'r achos dros gerdded a beicio drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarn a dangos yr hyn y gellir ei wneud.

Ers dros 15 mlynedd rydym wedi arloesi i ddatblygu technegau monitro, gwerthuso ac arfarnu ar gyfer teithio llesol.

Mae ein tîm o dros 30 o ymchwilwyr, dadansoddwyr ac arbenigwyr gwerthuso yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ledled y DU i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth glir o effaith gwaith Sustrans a chyd-destun ehangach buddion teithio llesol.

Arfarniad economaidd a chymorth achos busnes

Mae angen tystiolaeth ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i asesu cyrhaeddiad, effeithiolrwydd a gwerth posibl datrysiadau arfaethedig.

Rydym yn arloesi dulliau arfarnu arfer gorau (gan gynnwys cefnogi datblygiad WebTAG a HEAT®) i amcangyfrif effaith debygol ymyriadau penodol a chynhyrchu ffigurau buddion economaidd cadarn.

Monitro a gwerthuso

Mae ein fframweithiau monitro a gwerthuso yn eich helpu i ddeall canlyniadau eich rhaglenni ochr yn ochr â'r hyn sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio fel y gallwch wneud y defnydd gorau o'r arian a'r adnoddau sydd ar gael.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr wrth werthuso ymyriadau a gynlluniwyd i gynyddu teithio llesol. Mae ein profiad helaeth o fonitro rhaglenni cerdded a beicio yn ein gosod fel arweinydd yn y maes hwn.

Mae ein harfarniadau yn defnyddio proses pum cam:

  1. Datblygu fframweithiau gwerthuso
  2. Mapio rhesymeg
  3. Cyflwyno casglu data meintiol ac ansoddol
  4. Dadansoddi'r canlyniadau
  5. Adrodd

Modelu a darogan

Rydym yn defnyddio ystod o offer a dulliau o ymdrin ag amcanu lefelau beicio prosiectau, amcangyfrif tueddiad i feicio a chyfrifo'r buddsoddiad gofynnol i gyrraedd targedau. Rydym yn teilwra ein dull o ymdrin ag anghenion cleientiaid, gan dynnu ar brofiad o gasglu data ar y boblogaeth darged a'r ardal leol a, lle bo'n briodol, cymhwyso dulliau systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS) i'n dadansoddiad.

Ymchwil

Dylunio, cyflwyno a llywio prosiectau ymchwil mewn partneriaeth ag academyddion ledled y DU, a chynnal adolygiadau dadansoddi a thystiolaeth ar faterion sy'n berthnasol i deithio llesol a chynaliadwy.

Hyfforddiant ac arweiniad

Darparu arweiniad a hyfforddiant arfer gorau, gan gynnwys cymorth wrth weithredu, ar draws pob maes o'n harbenigedd.

A women cycles through birmingham on a warm sunny day

Mynegai Cerdded a Beicio

Y Mynegai Cerdded a Beicio (gynt yn Bywyd Beic) yw'r asesiad mwyaf yn y DU o feicio a ddarperir gan Sustrans ar draws amrediad o ddinasoedd ac ardaloedd dinesig ledled y DU.

Mae adroddiad 'Merched: lleihau'r bwlch rhwng y rhywiau' yn enghraifft o'n hymchwil yn y maes hwn.

Merched: Lleihau'r bwlch rhwng y rhywiau

Arolwg Hands Up Scotland

Mae Arolwg Hands Up Scotland yn edrych ar sut mae disgyblion ledled yr Alban yn teithio i'r ysgol a'r feithrinfa. Wedi'i sefydlu yn 2008, mae'r arolwg wedi bod yn rhoi cipolwg ar deithiau i'r ysgol ers dros ddegawd a dyma'r set ddata genedlaethol fwyaf ar deithio i'r ysgol.

Arolwg Hands Up Scotland

Ein hymchwil diweddaraf

Os hoffech gomisiynu ein gwasanaethau, cysylltwch â'r Uned Ymchwil a Monitro: monitoring@sustrans.org.uk.

Andy Cope

Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Mewnwelediad Sustrans