Diogelu yn Sustrans

Credwn ei bod yn annerbyniol i unrhyw un ddioddef camdriniaeth o unrhyw fath. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo lles a diogelwch yr holl blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

  

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i ddiogelu pob plentyn, person ifanc ac oedolyn sydd mewn perygl ac i hyrwyddo eu lles.

Rydym yn gwneud hyn drwy greu amgylchedd diogel lle gallant ffynnu ynddo a lle gall staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr eraill Sustrans weithio gyda diogelwch canllawiau clir.

Sut rydym yn gweithio

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau diogelu o ddifrif ledled y sefydliad.

Mae gweithdrefnau clir ar gyfer adrodd a rheoli unrhyw bryderon diogelu. Ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau perthnasol fel yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae holl staff Sustrans a gwirfoddolwyr perthnasol yn derbyn hyfforddiant diogelu.

Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio'n ddiogel, gyda gwiriadau datgelu lle bo angen ar gyfer staff sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Mae'r staff hyn hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol.

Rydym yn ystyried y risgiau diogelu ym mhob un o'n gweithgareddau a'n digwyddiadau i sicrhau bod cyfranogwyr, staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel.

 

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae diogelu yn cael ei reoli yn Sustrans neu os oes gennych bryder diogelu, e-bostiwch safeguarding@sustrans.org.uk