Ymunwch â'r mudiad
Mae eich rhodd yn ein helpu i barhau i ofalu am y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Bydd yn cefnogi ein gwaith i wella cerdded a beicio i bawb, gan greu lleoedd iachach a phobl hapusach.
Bydd eich rhodd heddiw yn helpu i gyflawni Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gwell ar gyfer y dyfodol.
Bydd eich rhodd yn helpu i greu Rhwydwaith sy'n ddiogel ac yn hygyrch i bawb.
Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn hefyd greu lleoedd gydag aer glân a mannau gwyrdd, lle mae ffrindiau a chyfleusterau yn daith gerdded fer, olwyno neu feicio i ffwrdd.
Dinasoedd a threfi lle gall pawb ffynnu heb orfod defnyddio car.
Dewch yn Sustrans Outsider
Rhowch rodd o £5 y mis a byddwch yn cael popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau'r awyr agored.
P'un a ydych allan am antur, her ffitrwydd, neu dreulio amser wedi'ch amgylchynu gan natur, byddwch yn helpu i greu mwy o fannau gwyrdd di-draffig i gymunedau eu mwynhau.
Crëwch fwy o filltiroedd di-draffig
Mae 5,236 milltir o lwybrau di-draffig ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Bydd eich rhodd yn ein helpu i greu 5,000 yn fwy o filltiroedd o lwybrau di-draffig erbyn 2040.
Rhwydwaith gwell, i bawb
Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn ased lleol gyda chyrhaeddiad anhygoel, yn cysylltu pobl a lleoedd ledled y DU ac yn darparu mannau di-draffig i bawb eu mwynhau.
Amcangyfrifir bod ei fudd i economi'r DU yn £1.3 biliwn gydag effaith gadarnhaol ar iechyd, tagfeydd a'r amgylchedd.