Archwiliwch orffennol diwydiannol a phresennol adfywio Cwm Tawe wrth i'r llwybr hwn fynd â chi ar daith o ddarganfod trwy galon ddiwydiannol Cwm Tawe.
Gan ddechrau yn Nglannau Abertawe ger Pont Hwylio drawiadol, mae'r llwybr yn dilyn Afon Tawe – chwiliwch am Stadiwm Liberty eiconig, warysau brics o ddechrau'r 20fed ganrif ac olion gweithfeydd copr eiconig.
Gan groesi i ochr orllewinol yr afon mae'r llwybr yn parhau tuag at Glydach lle mae rhan newydd o'r llwybr yn mynd â chi ar daith ddiddorol heibio Glais a thros y gwaith celf trawiadol 'Pont Afon Tawe'.
Ymhellach ymlaen fe welwch Barc prydferth Coed Gwyllim, cartref Canolfan Treftadaeth Clydach a lle perffaith i stopio am bicnic. Dilynwch y llwybr ar hyd y gamlas am tua 2 filltir, i dref Pontardawe. Mae rhan olaf y llwybr gwych hwn yn dringo i ochr ddwyreiniol y dyffryn lle mae'r golygfeydd ysblennydd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cwblhau'r daith wych hon.
Hoffech chi gael mwy o ysbrydoliaeth ar y llwybr? Cofrestrwch i'n e-bost.
Sylwer
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd.
Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn.
Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr.
Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.