Mae'r rhan rhwng Markham a'r Coed Duon yn llwybr diogel a deniadol di-draffig, gan ei gwneud yn berffaith i deuluoedd a newydd-ddyfodiaid. Mae'r llwybr yn teithio ar hyd ochr Dyffryn Sirhywi a thrwy'r llechweddau coediog heddychlon.
Mae bwlch yn y llwybr i'r de o Dredegar ac i'r gogledd o Markham.
Mae digon o bethau i'w gweld a'u gwneud ar hyd y llwybr. Yn Nyffryn Sirhywi, gallwch archwilio'r coetiroedd ac ymlwybro trwy Flatwoods Meadows. Gallwch hefyd ymweld â thref hanesyddol Tredegar, lle magwyd Aneurin Bevan.
Sylwer
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd.
Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn.
Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr.
Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.