Mae Llwybr Cenedlaethol 88 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn llwybr arfordirol arfaethedig rhwng Casnewydd, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Pharc Gwledig Margam. Ar hyn o bryd, dim ond rhannau byr o'r llwybr sydd ar agor.

1. Casnewydd i Gaerllion

Mae'r llwybr saith milltir hwn ar lan yr afon ar hyd Afon Wysg yn cysylltu Casnewydd a Chaerllion ac mae'n wastad ac yn ddi-draffig yn bennaf.

Mae'r llwybr yn ddewis amgen da i brysurdeb Ffordd Pillmawr ac yn cysylltu campysau'r Brifysgol, gorsaf reilffordd Casnewydd ac yn darparu llwybr diogel i sawl ysgol.

Er mwyn sicrhau nad yw'r llwybr yn gorlifo yn ystod llanw uchel, adeiladwyd llwybr pren wedi'i wneud o ddeunydd wedi'i ailgylchu ar draws y gorlifdir.

2. Casnewydd i Marshfield

Mae'r rhan hon o'r llwybr yn dechrau ger Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd ac yn mynd i Marshfield.

Mae'r llwybr yn teithio ar hyd ardal dawel o wastadeddau Gwynllŵg sy'n cael eu ffurfio o ddyddodion llanw ac sy'n adnodd gwlyptir pwysig.

3. Caerdydd i Benarth

Mae'r rhan yma o Lwybr 88 wedi cwblhau Llwybr Bae Caerdydd ac wedi cysylltu Caerdydd a'r Fro.

Mae pont newydd wedi ei gosod sy'n croesi Afon Elái rhwng Penarth a'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.

Mae'r llwybr yn golygu bod pobl sy'n byw yn y Pentref Chwaraeon bellach yn gallu cyrraedd gorsaf reilffordd Cogan, gan alluogi cymudo hawdd ar droed neu ar feic. Ar ochr y Fro, mae'r llwybr yn darparu cysylltiadau i ganol tref Penarth ac ardaloedd preswyl.

Er bod bwlch ar hyn o bryd yn y llwybr trwy Ganol Tref Penarth mae'r llwybr yn ailddechrau yr ochr arall i Benarth gan deithio ar hyd hen reilffordd i Barc Gwledig Cosmeston.

4. Y Barri i Ewenni

Gan ddechrau ym Mharc Gwledig Porthceri yn Y Barri mae'r rhan hon o'r llwybr yn defnyddio lonydd gwledig tawel sy'n cysylltu cymunedau'r Rhws, Llanilltud Fawr a'r Wig.

Sylwer

Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd.

Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn.

Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr.

Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.

I wneud yn siŵr bod pawb yn cael y gorau o'u hamser gan y dŵr, sicrhewch eich bod yn dilyn y Cod Llwybr Tynnu.

Please help us protect this route

Route 88 is part of the National Cycle Network, cared for by Sustrans. Your donation today will help keep the Network safe and open for everyone to enjoy.

Rhannwch y dudalen hon