Mae Llwybr 887 yn llwybr newydd rhwng Port Talbot a Pharc Coedwig Afan, sy'n eich galluogi i archwilio cefn gwlad hardd Afan a'i ganolfan beicio mynydd.

Mae Llwybr 887 yn darparu cyswllt rhwng trefi Port Talbot, Cwmafan a Phontrhydyfen, gan gysylltu pobl leol â siopau, ysgolion a gweithleoedd.

Yna mae'r llwybr yn parhau i Barc Coedwig Afan, gan greu gwell mynediad i'r man gwyrdd poblogaidd hwn.

Mae Parc Coedwig Afan wedi'i guddio ym mhen uchaf Cwm Afan ac mae wedi'i gerfio o'r un mynyddoedd ag y ffynnodd cymuned lofaol yr ardal ar un adeg.

Er bod y pyllau glo bellach ar gau, mae'r llwybrau yn bendant ar agor ac yn dod â digon o fywyd i'r ardal. Mae Afan yn un o ganolfannau llwybrau mwyaf poblogaidd y DU ac mae wedi bod yn cadw beicwyr mynydd yn fwdlyd, yn flinedig ac yn hapus ers blynyddoedd.

Diolch i ansawdd ac amrywiaeth y llwybrau, mae wedi ennill enw da am fod yn un o'r canolfannau beicio mynydd pwrpasol gorau yn y byd.

Sylwer

Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd.

Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn.

Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr.

Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.

Please help us protect this route

Route 887 is part of the National Cycle Network, cared for by Sustrans. Your donation today will help keep the Network safe and open for everyone to enjoy.

Rhannwch y dudalen hon