Gan ddechrau ger yr amrywiaeth liwgar o gychod hwylio ym Marina Neyland, mae'r llwybr yn dilyn Aber Cleddau hardd trwy goetir llydanddail deniadol Gwarchodfa Natur Westfield Pill cyn parhau ar hyd hen reilffordd Great Western i Johnston. Adeiladwyd y rheilffordd rhwng 1852 a 1856 dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, yr enwocaf o holl beirianwyr Oes Fictoria.
O Johnston, gallwch barhau ar hyd Llwybr 4 tua'r gogledd am tua 4 milltir i Hwlffordd lle byddwch yn dod o hyd i ystod eang o siopau (gan gynnwys llogi beiciau), caffis a bwytai, yn ogystal ag adfeilion castell a phriordy .
Hoffech chi gael mwy o ysbrydoliaeth ar y llwybr? Cofrestrwch i'n e-bost.
Sylwer
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd. Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn. Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr. Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.