Mae Llwybr Taf yn rhedeg am 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ar hyd cymysgedd o lwybrau glan yr afon, llwybrau rheilffordd a ffyrdd coedwig. Mae'r rhan hon, sy'n dechrau ychydig i'r gogledd o Ferthyr Tudful ac yn rhedeg i Gronfa Ddŵr Pontsticill ym Mannau Brycheiniog, yn gadael y tu ôl i'r ardaloedd poblog i'r de ac yn mynd i mewn i'r bryniau.
Mae Merthyr Tudful yn gartref i Barc Cyfartha, gyda thir hardd, castell o'r 19eg ganrif, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfartha, rheilffordd fechan, mannau chwarae ac amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Mae'r llwybr yn croesi Traphont ysblennydd Cefn Coed ac yn mynd trwy goetiroedd wrth iddi ddringo'n ysgafn i fyny at y gronfa ddŵr ym Mhontsticill. Mae golygfeydd godidog o'r mynyddoedd uchaf ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Er bod y llwybr yn ddi-draffig yn bennaf yn dilyn rheilffordd segur, mae'r rhan olaf i'r gronfa ddŵr ar ffyrdd tawel.
Sylwer
Rydym wedi cymryd pob cam cyfrifol i sicrhau bod y llwybrau hyn yn ddiogel ac yn gyraeddadwy gan bobl sydd â lefel resymol o ffitrwydd.
Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd awyr agored yn cynnwys rhywfaint o risg. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy'n deillio o ddilyn y llwybrau hyn.
Mae llwybrau cerdded a beicio yn newid dros amser. Gall tywydd hefyd effeithio ar arwynebau llwybr.
Defnyddiwch eich barn eich hun wrth ddefnyddio'r llwybrau yn seiliedig ar y tywydd a gallu, profiad a hyder y rhai yn eich grŵp.