Rydym yn ehangu ein timau ledled Cymru gyda'r nod o gael mwy o bobl yn cerdded a beicio. Mae ein gwaith gweddnewidiol mewn cymunedau'n creu bywydau hapusach ac amgylcheddau mwy iach i bawb. Yn ein hachos ni, mae'r gweddnewidiad hwn yn digwydd y tu mewn i Sustrans. Dysgwch fwy wrth wrando ar leisiau ein recriwtiaid newydd.
Mae ein gweithwyr newydd yn dweud wrthym pa safbwyntiau a sgiliau newydd y maent yn eu cyflwyno i'r tîm yn Sustrans.
Rydym yn cefnogi cymunedau i ddatblygu mannau cyhoeddus anhygoel lle gall pobl gysylltu â'r pethau sydd eu hangen arnynt a'i gilydd.
Ond dim ond gyda'r ddealltwriaeth a'r amrywiaeth o safbwyntiau sydd gennym yma yn Sustrans y gellir gwneud y gwaith hwn.
Dewch i gwrdd â rhai o aelodau mwyaf newydd ein tîm a darganfod beth maen nhw'n dod â nhw i Sustrans.
Alice Bailey, Swyddog Cymorth
Mae Alice Bailey wedi gweithio yn y sector elusennol yn cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru.
Fel gwirfoddolwr, mae wedi gweithio'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc anabl a di-anabledd, ac mae wedi trefnu a chyflwyno digwyddiadau mawr.
Mae hi'n edrych ymlaen at ddod â'i phrofiadau i Sustrans gan ei bod yn credu bod Sustrans wedi ymrwymo i fod yn rhan o'r gymuned ehangach ac amrywiol.
Daniel Ebrahim, Swyddog Cymorth Technegol
Mae gan Daniel Ebrahim radd mewn Pensaernïaeth ac roedd yn gweithio gydag Oasis yn Sblot pan gyfarfu â rhywun a awgrymodd y byddai gennym rolau i weddu i'w sgiliau.
Gwnaeth Dani gais am rôl gyda Sustrans Cymru ac mae bellach yn gweithio yn y tîm Cymunedau Cysylltiedig, gan gefnogi archwiliadau llwybrau a gweithgareddau mapio rhwydweithiau.
Tara Aisha, Swyddog Prosiect Technegol
Mae Tara wedi gweithio ym maes cynllunio trafnidiaeth gyhoeddus ac ardal, mapio rhwydwaith teithio llesol a sefydliadau addysg uwch yn Indonesia, Awstralia, yr Alban, Lloegr a Chymru.
Mae hi wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ymchwilio a chyflawni prosesau dylunio cydweithredol a chyfranogol.
Ei nod yw ymgorffori ei chymhwysedd proffesiynol ac academaidd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr amgylchedd adeiledig, yn enwedig ymhlith grwpiau lleiafrifol a bregus.
Mae hi'n credu bod Sustrans Cymru wedi ei helpu hi a phawb i fynegi eu syniadau drwy wahanol feysydd arbenigedd.
Ruth Stafford, Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw
Mae Ruth Stafford wedi gweithio mewn trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer sefydliadau cymunedol a thri awdurdod lleol.
Mae hi hefyd wedi gweithio i elusennau, busnesau a mentrau cymdeithasol ym maes cynhyrchu bwyd, rheoli ac ymwybyddiaeth gwastraff lleol.
Mae Ruth wedi byw mewn llawer o wahanol leoedd ac mae bellach wedi ymgartrefu ar gyrion Y Drenewydd, ger y pentref y cafodd ei magu.
Mae'n teimlo'n gryf iawn am iechyd, addysg, yr amgylchedd a chydraddoldeb, ac yn meddwl bod Sustrans yn poeni am y pethau hyn ac yn gweithio i wella'r pethau hyn.
Dod yn rhan o dîm arloesol a deinamig
Dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:
"Rydyn ni eisiau mwy o lefydd byw, wedi'u gwneud i bawb a'u mwynhau gan bawb.
"Mae'n wych gallu tyfu'r tîm yng Nghymru.
"Mae her fawr o'n blaenau i ymateb i fygythiad newid hinsawdd ac ysbrydoli mwy o bobl i deithio'n wahanol.
"Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno ystod o sgiliau a safbwyntiau newydd, gan gynyddu ein presenoldeb mewn cymunedau ac ymestyn y gefnogaeth y gallwn ei chynnig i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
"Bydd cyfleoedd o hyd i ymuno â'n tîm a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith, ac a hoffai fod yn rhan o dîm arloesol a deinamig, i gysylltu a darganfod mwy."
Ehangu ein rhwydwaith o bartneriaid
Yn ogystal â thyfu ein tîm yng Nghymru, rydym hefyd yn ehangu'r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.
Bydd hyn yn ein helpu i herio ein hunain i wella'r ffordd rydym yn gweithio a gwneud lleoedd mwy cynhwysol a theg.
Rydym yn gwneud mwy i sicrhau bod ein gwaith yn gwella ac yn blaenoriaethu pobl o gymunedau sydd dan anfantais, ar y cyrion neu'n cael eu gormesu.