Mae ein Cyfarwyddwr Mewnwelediad, Dr Andy Cope, yn edrych ar y rôl y mae cerdded a beicio yn ei chwarae yn ystod cyfnod clo COVID-19. Gydag awdurdodau lleol eisoes yn gwneud newidiadau i'w gwneud yn fwy diogel i ni symud o gwmpas, rydym bellach yn gweld mwy o frys am fuddsoddi mewn seilwaith beicio a cherdded gwell. Mae Andy yn archwilio sut y gallwn ddysgu o'r rhan bwysig y mae cerdded a beicio yn ei chwarae yn ein gwytnwch trefol yng nghanol y pandemig a thu hwnt.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae heriau Covid-19 wedi nodi breuder rhai o systemau ein ffordd o fyw bresennol.
Mae'r argyfwng hefyd wedi amlygu rhai o'r pethau yr ydym wir yn eu gwerthfawrogi – teulu ac anwyliaid, ein cymuned, lles personol, a mannau gwyrdd i enwi dim ond rhai.
Mae cerdded a beicio yn rhan bwysig o wydnwch trefol
Rydym wedi gweld y rôl y mae cerdded a beicio wedi'i chwarae wrth alluogi gweithwyr allweddol i gyrraedd eu gweithleoedd, wrth ddarparu mynediad i fannau gwyrdd, ac wrth gefnogi systemau cyflenwi.
Ac mae manteision llai o draffig, a'r posibiliadau o newid mwy i ddulliau teithio mwy cynaliadwy, wedi bod yn glir iawn.
Wrth gwrs, pan fo lefelau traffig modur yn is, mae pobl yn teimlo'n llawer mwy hyderus i gerdded a beicio o amgylch eu trefi a'u dinasoedd.
Mae'r strydoedd mwy diogel a'r aer glanach yn ddau ffactor pwysig wrth annog cerdded a beicio.
Ond mae'r angen am gadw pellter corfforol yn ffactor arall - yr effaith llai positif o atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'n rhaid i ni wneud ein strydoedd yn fwy diogel
Mae'r cyfuniad o angen i wneud ein strydoedd yn fwy diogel ar gyfer beicio a cherdded, ac i alluogi cadw pellter corfforol, wedi arwain at lawer o alwadau am newidiadau dros dro i gynlluniau ffyrdd i gefnogi pobl i symud yn ddiogel.
Rydym bellach yn dechrau gweld cynlluniau dros dro sy'n ailddyrannu gofod ffordd i gerdded a beicio yn cael eu gweithredu ledled y wlad.
Daeth y cyhoeddiad cyntaf ar fuddsoddiad mawr mewn cynlluniau ailddyrannu mannau ar y ffyrdd o'r Alban ddiwedd Ebrill. £10m i gefnogi 'seilwaith teithio llesol dros dro'.
Dilynodd cyhoeddiadau yn gyflym ar gyfer Manceinion, ac fneu Lundain.
Ac mae Adran Drafnidiaeth y DU wedi cyhoeddi pecyn o fuddsoddiad o £250m ar gyfer lonydd beiciau dros dro, lle gwarchodedig ar gyfer beicio, palmentydd ehangach, cyffyrdd mwy diogel, a choridorau beicio a bysiau yn unig.
Yn ogystal â thalebau ar gyfer atgyweirio beiciau a mwy o ddarpariaeth ar gyfer cyfleusterau gosod beiciau.
Mewn gwirionedd, mae hyn yn cael ei bilio fel cam cyntaf buddsoddiad o £2bn mewn cerdded a beicio.
Y brys i fuddsoddi mewn cerdded a beicio
Mae gan y brys newydd i fuddsoddi mewn cerdded a beicio fel rhan o'r ymateb i'r pandemig y potensial i drawsnewid y ffordd yr ydym yn symud a'r ffordd yr ydym yn byw.
Bydd gan gerdded a beicio diogel rôl allweddol i'w chwarae wrth gael trefi a dinasoedd i symud yn ddiogel ar wahanol gamau o'r cyfyngiadau symud, a thu hwnt.
Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud y newidiadau hyn yn gyflym, ond hefyd ein bod yn cael y newidiadau'n gywir.
Lle i symud
Rydym am glywed eich barn am y newidiadau i gynlluniau ffyrdd yn eich ardal leol.
Felly rydym wedi lansio map rhyngweithiol i gasglu barn pobl am newidiadau dros dro, lleol ar y stryd sy'n cefnogi cerdded a beicio.
Mae angen i ni ddeall newidiadau i gynlluniau ffyrdd a wnaed yn ystod y cyfnod hwn, a sut y gallent weithio fel rhan o gynlluniau tymor hir i greu strydoedd iachach a dymunol i bobl.
Bydd yr offeryn hwn yn hanfodol i'n helpu i ddeall pa newidiadau i'r gofod fydd eu hangen yn ystod y misoedd nesaf.