Cyhoeddedig: 25th TACHWEDD 2024

Teithio llesol yng Nghymru: Buddsoddiad hollbwysig ar gyfer 2025 a'r dyfodol

Mae Sustrans Cymru wedi ymuno â Cycling UK a Living Streets Cymru i ysgrifennu at bob un o 60 Aelod o'r Senedd o flaen gyllideb Llywodraeth Cymru 2025/26, yn galw am deithio llesol i aros yn flaenoriaeth. Yn y llythyr agored yma, galwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod teithio llesol yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn Cymru sy'n iachach, gwyrddach, tecach ac yn fwy llewyrchus.

A group of cyclists travelling on Swansea promenade on a sunny day, with the beach in the background.

Mae Sustrans Cymru wedi ymuno â Cycling UK a Living Streets Cymru i alw am weithrediad. Llun gan: Neil Beer.

Annwyl Aelodau'r Senedd,

Gyda thrafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, rydym ni yn Cycling UK Cymru, Living Streets Cymru a Sustrans Cymru yn ysgrifennu atoch i ofyn ichi flaenoriaethu teithio llesol yn eich ystyriaethau.

Fel tair elusen deithio llesol fwyaf blaenllaw Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cerdded, olwyno a seiclo’n parhau’n flaenoriaeth i fuddsoddi cyhoeddus.

Mae buddsoddi mewn teithio llesol yn hollbwysig i’r broses o  alluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nodau o ran iechyd y cyhoedd, twf economaidd a charbon isel.

Wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer Cymru ym mis Hydref, credwn fod neilltuo cyllid targededig parhaus ar gyfer teithio llesol yn bosibl yn awr er mwyn cefnogi llawer o ganlyniadau polisi allweddol yng Nghymru. 

  • Trwy flaenoriaethu prosiectau seilwaith gwyrdd, gall Cymru cefnogi trawsnewid cynaliadwy i economi gydnerth, carbon isel. Gall buddsoddi mewn strydoedd mawr a chanol trefi cerddedadwy hybu economïau lleol – mae siopwyr sy’n cerdded yn gallu gwario chwe gwaith yn fwy na’r rhai sy’n teithio mewn car.[1]
  • Ar adeg o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth iechyd, mae cerdded, olwyno a seiclo’n allweddol i Gymru iachach. Gall buddsoddi mewn teithio llesol atal iechyd gwael a lleihau’r baich ar y GIG. Er enghraifft yn yr Alban, roedd nifer y marwolaethau a osgowyd oherwydd pobl yn cerdded i’r gwaith gwerth oddeutu £600 miliwn y flwyddyn.[2] 

 

Ein pedair galwad allweddol ar gyfer Cymru iachach, wyrddach, decach a mwy ffyniannus yw:

 

1. Gwarchod a chynyddu gwariant ar deithio llesol 

Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru ddiogelu, a lle bo’n bosibl, cynyddu cyllid ar gyfer y seilwaith teithio llesol a rhaglenni newid ymddygiad. Mae pob buddsoddiad mewn cerdded a seiclo’n creu buddion diri, o leihau costau’r GIG i sbarduno economïau lleol. Er enghraifft, mae pob £1 a fuddsoddwyd yn rhaglen ‘cerdded i’r ysgol’ Living Streets yn cynnig buddion gwerth £5 o ran iechyd, ansawdd aer, lleihau carbon a lleihau traffig. Nid nawr yw’r adeg i gymryd cam yn ôl o fuddsoddi mewn teithio llesol. Trwy sicrhau cyllid craidd ar gyfer teithio llesol, gall Cymru cefnogi iechyd y cyhoedd, lleihau tagfeydd a chyfrannu at weithredu ar newid hinsawdd.  

 

2. Blaenoriaethu llwybrau diogel i ysgolion ac addysg

Mae llwybrau diogel i’r ysgol yn hanfodol i lesiant plant a’u mynediad i addysg. Dywedasai 22% o rieni’r plant nad ydynt yn cerdded i’r ysgol ar hyn o bryd y byddai ffyrdd mwy diogel yn eu hannog i gerdded i’r ysgol yn fwy aml [3]. Rydym yn galw am barhau i neilltuo cyllid ac am raglenni newid ymddygiad er mwyn sicrhau yr ehangir ar y llwybrau cerdded a seiclo i ysgolion, a’u bod yn cael eu cynnal. Mae’r buddsoddiad hwn yn alinio â blaenoriaethau addysg y llywodraeth, gan wneud teithio llesol yn ddewis dichonol i rieni, yn lleihau tagfeydd traffig, ac yn cefnogi plant i gael y 60 munud o ymarfer corff a argymhellir iddynt bob dydd.

 

3. Gwella cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus

Ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru eisoes yn rhoi arian sylweddol i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn ceisio denu mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU ar ei chyfer, mae’n hanfodol cofio bod y rhan fwyaf o deithiau ar fws neu drên yn dechrau ar droed neu ar feic. Rhaid i deithio llesol gysylltu’n ddi-dor â thrafnidiaeth gyhoeddus i gael rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol integredig. Trwy ariannu mynediad ar droed neu ar feic i orsafoedd trên, safleoedd bysiau, a chyfnewidfeydd trafnidiaeth, a sicrhau digon o leoedd o ansawdd i storio beiciau’n ddiogel yn y lleoliadau hyn, gall Llywodraeth Cymru lleihau’r ddibyniaeth ar geir a chynyddu’r defnydd a wneir o drafnidiaeth gyhoeddus.

 

4. Blaenoriaethu Diogelwch ar y Ffyrdd i gerddwyr a seiclwyr

Mae diogelwch yn rhwystr mawr i gerdded a seiclo, yn enwedig i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n fwy agored i niwed. Bydd buddsoddi mewn gwelliannau fel croesfannau gwell, lonydd seiclo ar wahân a mesurau tawelu traffig yn annog mwy o bobl i gerdded neu seiclo. Bydd canolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd a mabwysiadu ymagwedd Gweledigaeth Sero at anafiadau ffyrdd yn ategu ac yn gwella’r enillion a gafwyd o ganlyniad i newid y terfyn cyflymder diofyn i 20mya mewn ardaloedd preswyl yn ddiweddar. Mae’r gweithredu a addawyd i roi terfyn ar barcio ar balmentydd yn hollbwysig hefyd er mwyn sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel i bawb, gan gynnwys cerddwyr sy’n agored i niwed. 

 

Byddem yn croesawu’r cyfle i glywed eich barn am y galwadau hyn neu i drafod ein gwaith ehangach yng Nghymru.

Rydym yn eich annog chi i gefnogi’r galwadau hyn yn y Senedd ar adeg mor dyngedfennol i ddyfodol cerdded, olwyno a seiclo yng Nghymru. 

 

Yn gywir,

Gwenda Owen, Cycling UK Cymru

Ruth Billingham, Living Streets Cymru

Stephen Cymru, Sustrans Cymru

Rhannwch y dudalen hon