Cyhoeddedig: 19th RHAGFYR 2019

Araith y Frenhines - ein hymateb

Heddiw, mae'r Frenhines wedi cyhoeddi blaenoriaethau newydd Llywodraeth y DU ar gyfer y tymor sydd i ddod, gan gynnwys Strategaeth Seilwaith Genedlaethol gwerth £100 biliwn, a fydd yn cael ei chyhoeddi gyda'r Gyllideb yn 2020.

Group of people cycling along road in NI

Un o nodau'r strategaeth yw nodi uchelgeisiau'r Llywodraeth ar gyfer trafnidiaeth a mynd i'r afael â'r her dyngedfennol a ddaw yn sgil newid hinsawdd. Bydd hefyd yn gweithredu fel ymateb i Asesiad Seilwaith Cenedlaethol y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn 2018 lle dyfynnwyd 'dull llai sy'n canolbwyntio ar gar' i drafnidiaeth ynghyd â'r angen am 'ddarpariaeth well a mwy diogel ar gyfer beicio a cherdded'.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Rachel White, Pennaeth Materion Cyhoeddus Sustrans:

"Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am yr angen i gyrraedd targedau carbon y DU a bod yn arweinydd byd-eang mewn datgarboneiddio, yna mae'n rhaid iddi fuddsoddi'n sylweddol fwy mewn seilwaith cerdded a beicio fel rhan o'i Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol.

"Mae angen biliynau i gynyddu'r ddarpariaeth ddiogel ar gyfer cerdded a beicio wrth greu canol trefi a dinasoedd sy'n groesawgar, yn gymdeithasol ac yn blaenoriaethu pobl dros y car fel y gall pawb gyrraedd y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar droed neu ar feic.

"Mae gan gerbydau trydan ran i'w chwarae yn y dyfodol ond mae eu gweithgynhyrchu yn dal i fod yn garbon-ddwys a'u cadwyni cyflenwi yn anghynaladwy.

"Yn yr un modd, ni fydd symud pobl o un blwch metel i'r llall yn datrys ein hargyfwng anweithgarwch corfforol.

"Os ydym am wella ein hiechyd, yr amgylchedd a'r economi, mae'n rhaid i ni weld mwy o fuddsoddiad mewn beicio a cherdded ac mae'r Strategaeth Seilwaith Cenedlaethol yn gyfle perffaith i wneud hyn."

Darllenwch am sut i integreiddio seilwaith wedi'i addasu i'r hinsawdd i gynllunio trefi.

Rhannwch y dudalen hon