Roeddem yn falch o gymryd rhan yn y Cylch eleni ar y Senedd, a welodd gannoedd o bobl yn ymgyrchu dros fwy a gwell seilwaith teithio llesol yng Nghymru.
Cydlynodd Dinas Feicio Caerdydd y Cylch ar y Senedd i alw am gynnydd mewn buddsoddiad mewn teithio llesol. Galw ar Aelodau Cynulliad i gefnogi eu galwad am £20.00 y pen i gael ei fuddsoddi mewn cerdded a beicio diogel a chyfleus.
Dim ond drwy fuddsoddiad o £20 y pen y gall Cymru ddechrau mwynhau'r holl fanteision iechyd, amgylcheddol ac economaidd a addawyd i ni yn y Ddeddf Teithio Llesol.
Dywedodd Steve Brooks Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:
"Llywodraeth yw lle mae rwber yn taro'r ffordd. Os yw mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon yna rhaid i'w chyllideb adlewyrchu hyn.
"Mae angen i'r llywodraeth alluogi mwy o bobl i adael eu ceir gartref, a cherdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau byr - yn enwedig yn ein trefi a'n dinasoedd.
"Fe wnaethom groesawu'r buddsoddiad o £60 miliwn o gyllid teithio llesol yn 2018 fel cam cyffrous ac enfawr i'r cyfeiriad cywir, ond yn anffodus nid yw'r gwelliant hwn yn ddigon i weithredu'r weledigaeth a addawyd i ni yn y Ddeddf Teithio Llesol.
"Ar adeg o argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni wneud mwy a symud yn gyflymach."