Heddiw rydym wedi llofnodi cytundeb partneriaeth strategol newydd gyda'r Cyngor Dylunio. Bydd y cytundeb newydd yn galluogi sefydliadau i wneud y mwyaf o rôl dylunio da wrth greu lleoedd gwell i bobl. Yn enwedig lle mae rôl cerdded, beicio a thrafnidiaeth gynaliadwy yn rhan annatod o ddyluniad ein strydoedd a'n gofodau.
Mae'r bartneriaeth newydd yn cysylltu â Strategaeth 2020-24 y Cyngor Dylunio a lansiwyd yn ddiweddar sy'n nodi tair blaenoriaeth allweddol:
- Gwella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau iechyd
- galluogi byw'n gynaliadwy, gan ganolbwyntio'n benodol ar newid yn yr hinsawdd
- a chynyddu sgiliau dylunio i ymateb i heriau mawr a chyfrannu at yr economi.
Gweithio gyda'n gilydd i gynyddu gweithgarwch corfforol a lles
Bydd y Cyngor Dylunio a Sustrans yn defnyddio eu hymchwil, eu mewnwelediad a'u syniadau a rennir i ddylanwadu ar bolisïau tai a chynllunio Llywodraeth y DU a gwaith cymunedau garddio, gan sicrhau bod cymdogaethau yn ysgogi gweithgarwch corfforol a lles meddyliol.
Mae'r ddau sefydliad yn awyddus i wneud y mwyaf o'r agenda twf tai, gan roi creu lleoedd iach wrth ei wraidd.
Cefnogaeth ymarferol i bartneriaid
Bydd y Cyngor Dylunio a Sustrans yn adeiladu ar eu gwaith i ddarparu cymorth ymarferol i bartneriaid sy'n gweithio ym maes cynllunio, dylunio a rheoli'r amgylchedd adeiledig.
Bydd hyn yn cynnwys cefnogi partneriaid i ymgysylltu'n llawn â chymunedau lleol, gan gynnwys cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, er mwyn creu strydoedd iach a lleoedd sy'n diwallu anghenion amrywiol pobl.
Bydd y ddau sefydliad hefyd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau dylunio a meddylfryd partneriaid i hyrwyddo cydweithredu ac arloesedd o amgylch yr amgylchedd adeiledig, ei gynhyrchion a'i wasanaethau.
Mae'r Cyngor Dylunio yn darparu cyngor strategol i awdurdodau lleol ledled y DU, gan eu cefnogi i ddylunio cymdogaethau sy'n hyrwyddo teithio llesol. O dan bartneriaeth strategol newydd, bydd y Cyngor Dylunio a Sustrans yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod dyluniad ein strydoedd a'n mannau yn blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gynaliadwy. (Yn y llun yma, mae'r llwybr poblogaidd 1.2km di-draffig sy'n cysylltu Kingston-Upon Thames â Merton – prosiect a gefnogir gan Sustrans ac a ystyrir gan y Cyngor Dylunio fel enghraifft o arfer da)
Dywedodd Sarah Weir OBE, Prif Weithredwr y Cyngor Dylunio:
"Rwy'n falch iawn fy mod wedi ymuno â'r bartneriaeth strategol newydd hon gyda Sustrans.
"Mae'r berthynas bwysig hon yn cefnogi strategaeth newydd uchelgeisiol y Cyngor Dylunio sy'n nodi ein hymrwymiad i wella iechyd a lles, galluogi byw'n gynaliadwy a chynyddu sgiliau dylunio.
"Mae creu lleoedd iach, cynhwysol a chynaliadwy wedi bod yn rhan greiddiol o'n gwaith ers blynyddoedd lawer.
"Trwy ymuno â Sustrans, rhannu ein profiad a'n harbenigedd, a gweithredu ein dylanwad ar y cyd, gallwn symud ymlaen hyd yn oed ymhellach i ddylunio cartrefi, cymdogaethau a seilwaith er budd pobl a'r blaned."
Adferiad mwy gwyrdd a chyfiawn o Covid-19
Dywedodd Xavier Brice, Prif Weithredwr Sustrans:
"Mae gan Sustrans a'r Cyngor Dylunio y fraint o weithio ar brosiectau sy'n helpu miliynau o bobl i drawsnewid y ffordd y maent yn symud o gwmpas mewn dinasoedd a threfi ac mae'r ddau yn rhannu gwerthoedd yn seiliedig ar flaenoriaethu pobl yn y broses ddylunio a chynllunio.
"Yn y cyfnod eithriadol hwn, mae mwy o frys a rheidrwydd i gydweithio a gweithio'n well tuag at adferiad mwy gwyrdd a chyfiawn.
"Mae'r cytundeb partneriaeth hwn yn rhoi cyfle i ni gyfuno ein cryfderau, cyrraedd cymunedau mwy amrywiol a chreu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb".
Ein canllawiau dylunio diweddaraf
Mae'r Adran Drafnidiaeth yn annog awdurdodau lleol i ailddyrannu gofod ffordd i gerdded a beicio.
Felly, yn ddiweddar fe gyhoeddon ni ganllaw rhagarweiniol ar gyfer cynllunwyr, dylunwyr trefol a pheirianwyr ar sut i ddylunio a gweithredu cymdogaethau traffig isel.