Yn ystod pythefnos Big Pedal, cystadleuaeth teithio llesol ryng-ysgol fwyaf y DU, gwnaeth ysgolion ledled Cymru gyfanswm o 110,000 o deithiau llesol. Cymerodd 28,000 o ddisgyblion mewn 101 o ysgolion yng Nghymru ran mewn cerdded, olwynio, sgwtera a beicio i'r ysgol, gan arbed amcangyfrif o 190,000 o deithiau car.
Taliesin Lewis-Williams, disgybl yn Ysgol Gynradd Llanllechid, Gogledd Cymru, yn mwynhau'r beicio i'r ysgol.
Llwyddiant y Big Pedal
Mae'r pellter a deithiwyd yn llesol gan ysgolion yn ystod Big Pedal 2021 yn cyfateb i un daith i'r lleuad neu chwe thaith ledled y byd.
Felly i ddathlu, rydyn ni'n arddangos cyflawniadau Big Pedal ein Hysgolion Teithiau Iach ym mhob rhanbarth yng Nghymru.
Mae ein rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru yn helpu plant ledled y wlad i deithio i'r ysgol ar droed, olwynion, beic a sgwter yn ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus.
Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglen (carfan yn dechrau mis Medi 2021) bellach ar agor.
Gogledd Orllewin Cymru
Mae Ysgol Gynradd Llanllechid, Gwynedd wedi dangos brwdfrydedd wrth gymryd rhan yn ein Rhaglen Teithiau Iach, gan gynnwys Big Pedal.
Cyflawnodd y disgyblion cyfanswm o 1424 teithiau llesol trawiadol yn ystod Her 5 Diwrnod y Big Pedal.
Ni fyddai'r teithiau llesol hyn yn bosibl heb gefnogaeth ac ymrwymiad rhieni a gwarcheidwaid.
Beiciodd un disgybl, Tal, yn y llun uchod, 20 milltir ysbrydoledig yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ystod wythnos Big Pedal.
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda tad Tal i ofyn iddo pam ei fod ef a’i fab wrth eu bodd yn teithio’n llesol i’r ysgol gyda’i gilydd.
Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae ysgol Bryn Deva yn Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n galed ar ein Rhaglen Teithiau Iach ers 2018.
Eleni, er gwaethaf yr heriau, fe wnaethant drefnu Wythnos Cerdded i’r Ysgol, a than ddiwedd y tymor mae pob disgybl sy’n teithio’n llesol i’r ysgol yn cael maent yn cael eu cynnwys mewn raffl.
Yr wythnos hon, cyflwynodd ein swyddog Teithiau Iach Hannah Meulman weithdy trwsio pynctiwr, ar gyfer disgyblion CA2.
Helpodd y sesiwn hon i ddatblygu sgiliau a hybu hyder disgyblion i gynnal eu beiciau yn barod ar gyfer y daith i’r ysgol.
Bu ysgol Bryn Deva yn fuddugol gyda’r her 1 diwrnod yng Nghymru, gyda 93.99% o deithiau anhygeol wedi’i deithio’n llesol.
Mae’r ysgol hefyd, ynghyd â 5 ysgol arall ledled y DU wedi cael eu dewis yn enillwyr y gystadleuaeth ailenwi Big Pedal.
Canol De Cymru
Mae Ysgol Gynradd Afon y Felin ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dangos ymrwymiad i deithio llesol ers 2014.
Mae rhieni a disgyblion wedi lleihau defnydd car ar y daith i'r ysgol gan fwy na hanner dros dair blynedd o weithio ar y Rhaglen Teithiau Iach.
Dangosodd data sylfaenol fod 40.5% o ddisgyblion wedi teithio i'r ysgol mewn car, gan ostwng i ddim ond 17.2% 3 blynedd yn ddiweddarach.
Dim ond nifer fach o ddisgyblion oedd yn berchen ar feiciau pan ddechreuon ni weithio gyda'r ysgol am y tro cyntaf, ond nid yw hyn wedi atal disgyblion rhag cerdded, olwynio, sgwtera a beicio i’r ysgol.
Yn ystod her 5 diwrnod y Big Pedal, teithiwyd 90.4% o deithiau yn llesol.
Mae hon yn cyflawniad gwych gan ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgol.
Cafodd 110,000 o siwrneiau llesol enfawr eu gwneud gan ysgolion yng Nghymru fel rhan o Big Pedal 2021.
Gorllewin Cymru
Cymerodd Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ran yng nghystadleuaeth Big Pedal eleni, gan gwblhau cyfanswm o 1,823 o deithiau llesol anhygoel.
Ar ôl bod yn rhan o'n Rhaglen Teithiau Iach ers 2018, mae eu gwaith caled yn cerdded, olwynio, sgwtera a beicio i'r ysgol yn enghraifft wych i ysgolion ledled Cymru.
Cymryd cyfrifoldeb am ein hamgylchedd
Mae Haf Ap Robert, Pennaeth Cynorthwyol Bro Hyddgen yn myfyrio ar y gystadleuaeth:
“Mae cymryd rhan yn y Big Pedal wedi codi ymwybyddiaeth ymysg plant, staff a rhieni'r ysgol o'r posibiliadau amgen sydd i deithio i'r ysgol.
"Mae cymaint i'w ennill a'i fwynhau drwy deithiau iach.
"Mae hefyd yn gyfrwng arall ar gyfer canmol ymdrech plant ac iddynt dyfu'n unigolion iach a hyderus.
"Hyderaf fod yr ymgyrch yn deffro ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd ac yn meithrin dinasyddion egwyddorol a gwybodus yma ym Mro Hyddgen.
"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'r swyddog Teithiau Iach lleol am gefnogi'r ysgol gyda'r ymgyrch drwy ddarparu gweithdai defnyddiol a hwylus tu hwnt, a gwirio dros 100 o feiciau yn ystod sesiwn Dr Beic.”
De Ddwyrain Cymru
Roedd Ysgol Gynradd Ty'n y Wern yn Nhrethomas yn brysur yn ystod Big Pedal, gan gwblhau nifer o ddigwyddiadau yn ystod y gystadleuaeth gan gynnwys Dr Beic, sgiliau sgwtera a ’Bling Your Ride’.
Yn ystod wythnos Big Pedal hefyd, enillodd Ty’n y Wern y Wobr Ysgol Teithio Llesol arian.
Mae'r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad ysgolion i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy.
Mae hyn wedyn yn arwain at newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy'n helpu cymuned yr ysgol i ddewis teithio llesol ar gyfer y daith i’r ysgol.
Teithiwyd 83.56% o deithiau yn llesol yn ystod yr her, ac mae ein Swyddog Teithiau Llesol ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn edrych ymlaen at gefnogi mwy o gyflawniadau gwych yn y dyfodol.
Mae'r Wythnos Beicio i'r Ysgol yn ôl ac yn cael ei chynnal rhwng 27 Medi a 1 Hydref 2021.