Mae dwy ysgol yn Dorset wedi gwneud mwy o le y tu allan i'w giatiau ar amseroedd codi a gollwng wrth i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol.
Gall cael gwared ar draffig o'r tu allan i gatiau'r ysgol wneud llawer mwy o le ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.
Mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cyfyngu ar draffig modur i wneud mwy o le ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.
Gweithio mewn partneriaeth
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Dorset i gyflwyno'r cynlluniau yn Ysgol Iau Upton ac Ysgol Gyntaf Manor Park.
Maent yn cael eu hariannu drwy grant gan Gronfa Teithio Llesol Brys yr Adran Drafnidiaeth.
Rhoi'r lle sydd ei angen ar deuluoedd
Dywedodd James Cleeton, Cyfarwyddwr De Lloegr:
"Rydym yn falch iawn o weld Cyngor Dorset a'r ysgolion hyn yn rhoi Strydoedd Ysgol ar waith.
"Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i roi'r lle sydd ei angen ar deuluoedd i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel.
"Fel arfer, gall ffordd sy'n rhydd o gerbydau gael gofod saith metr ychwanegol o led i gerddwyr. Mae hyn yn gwneud cadw pellter corfforol ar adegau prysur yn yr ysgol yn llawer haws.
"Mae cynlluniau Strydoedd Ysgol blaenorol wedi bod yn fuddiol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer. Ac maen nhw'n creu amgylchedd glanach, mwy dymunol y tu allan i'r ysgol.
"Mae strydoedd ysgol yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd plant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol yn hytrach na chyrraedd car. Mae plant wedyn yn profi manteision teithio llesol ar eu hiechyd a'u lles."
Hyrwyddo mathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth
Dywedodd y Cynghorydd Ray Bryan, Aelod Portffolio Cyngor Dorset ar faterion Priffyrdd, Teithio a'r Amgylchedd:
"Bydd diogelwch a lles plant ysgol a rhieni ar draws Dorset bob amser yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Felly, mae hyn yn ennill/ennill i bawb sy'n cymryd rhan.
"Wrth i ni wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol a bod myfyrwyr yn dychwelyd i'r ysgol o'r cyfnod clo, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo mathau mwy gwyrdd o drafnidiaeth - yn enwedig cerdded a beicio - i wella ein hamgylchedd ac iechyd y cyhoedd."