Cyhoeddedig: 6th CHWEFROR 2020

Marc Ysgol Aur Sustrans cyntaf erioed Cymru wedi'i ddyfarnu i Ysgol Gynradd Coychurch

Mae Ysgol Gynradd Coychurch ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ennill Gwobr Marc Ysgol Aur cyntaf Sustrans yng Nghymru am eu hymroddiad i deithio llesol.

Children at Coychurch Primary school celebrate receiving the Sustrans Gold School Mark award.

Dyfernir Marc Ysgol Aur Sustrans i ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy dros sawl blwyddyn, sydd wedi arwain at newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a pharhaol.

Dywedodd Steve Brooks, Sustrans Cymru, a gyflwynodd y wobr:

"Mae Ysgol Gynradd Coychurch wedi mynd y tu hwnt i wneud teithio llesol yn rhan o fywyd yr ysgol bob dydd. Mae bod yr ysgol gyntaf i ennill Gwobr Aur Sustrans yn gyflawniad gwych, mae'n dangos gwir ymroddiad i deithio llesol.

"Dylai cerdded, beicio neu sgwtera i'r ysgol fod yr opsiwn mwyaf diogel, hawsaf a mwyaf hygyrch i bob plentyn ysgol. Mae newid y ffordd rydym yn teithio i'r ysgol yn allweddol i fynd i'r afael รข llygredd aer a chynyddu lefelau gweithgarwch ymhlith plant."

Dathlodd yr ysgol gyda chynulliad arbennig lle darlledwyd neges gan bencampwr Tour de France, Geraint Thomas, gan longyfarch yr ysgol ar eu llwyddiant.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters:

"Hoffwn longyfarch yr ysgol a'i disgyblion am ennill y wobr aur hon. Mae'n enghraifft wych o sut y gall ysgolion fod yn rhagweithiol, herio ymddygiadau teithio a'u newid er budd pawb, wrth ei wneud yn hwyl hefyd.

"Mae'r Gweinidog Addysg a minnau wedi cytuno bod y
Bydd gan brosiectau ysgolion yr21ain ganrif Llywodraeth Cymru ffocws cryfach ar sut mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol, gan bwysleisio teithio llesol. Mae cael taith yr ysgol yn iawn yn hanfodol ac mae Ysgol Gynradd Llangrallo wedi gosod esiampl gref o sut y gellir gwneud pethau."

Dywedodd Melanie Treadwell, Hyrwyddwr Teithio Llesol Ysgol a Chydlynydd Eco:

"Rydym wrth ein bodd bod Sustrans Cymru wedi cydnabod ein hymdrechion i hyrwyddo Teithio Llesol. Mae dod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr y Marc Ysgol Aur yn gyflawniad gwych i'n hysgol fach a'r gymuned leol, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ein taith tuag at y wobr Aur."

Darganfyddwch fwy am Marc Ysgolion Sustrans

Rhannwch y dudalen hon