Cyhoeddedig: 19th MAWRTH 2019

Dyfodol Symudedd: Strategaeth Drefol - Ymateb Sustrans

Croesawodd Xavier Brice, Prif Swyddog Gweithredol Sustrans, yr elusen cerdded a beicio, Dyfodol Symudedd: Strategaeth Drefol a lansiwyd gan yr Adran Drafnidiaeth, 19 Mawrth 2019.

A group of people walking to work

"Rydym yn croesawu'n fawr bod y strategaeth yn rhoi cerdded a beicio wrth galon symudedd trefol yn y dyfodol, un o naw egwyddor gadarn y mae Llywodraeth y DU wedi'u diffinio i hwyluso arloesedd mewn symudedd trefol.

"Mae dyfodol ein trefi a'n dinasoedd yn dibynnu ar ein gallu i symud o gwmpas yn gynaliadwy ac ar atebion sy'n cael gwell effaith ar iechyd y cyhoedd, tagfeydd a gofod trefol. Dyna pam ei bod yn dda gweld yr egwyddor bod yn rhaid i gerdded, beicio a theithio llesol barhau i fod yr opsiynau gorau ar gyfer teithiau trefol byr.

"Dros y degawd nesaf mae technoleg yn mynd i yrru chwyldro mewn trafnidiaeth mor fawr รข'r rheilffyrdd a'r injan hylosgi mewnol; Un a allai arwain at deithio mwy gwyrdd a chyfleus i bawb. Ond mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r diwedd mewn cof. Pa fath o lefydd ydyn ni eisiau byw ynddyn nhw? Pa fath o fywydau ydyn ni eisiau eu harwain?

A does dim byd yn well am greu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb na buddsoddi mewn atebion sy'n ei gwneud hi'n haws cerdded a beicio.

"Gydag arweinyddiaeth a gweithredu, mae gan y Llywodraeth gyfle clir i drawsnewid cerdded a beicio ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

Rhannwch y dudalen hon