Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi partneru ag elusen flaenllaw teithio llesol y DU, Sustrans, i ddod â'r prosiect benthyca e-feiciau E-Symud i Ferthyr.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi partneru efo Sustrans Cymru i ddarparu'r prosiect E-Symud i fusnesau a phobl leol. Llun gan: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Sustrans Cymru, mae e-feiciau nawr ar gael i'w benthyg am ddim gan fusnesau a phobl yn ardal Merthyr Tudful.
Yn wreiddiol yn brosiect peilot wedi' ddarparu yn ardaloedd eraill yng Nghymru, mae E-Symud nawr ar gael ym Merthyr Tudful, efo busnesau ac unigolion yn gallu benthyg e-feic am ddim.
Dwedodd Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod o'r Cabinet dros Adfywiad, am lansiad E-Symud ym Merthyr Tudful:
"Bydd y prosiect e-feiciau yma'n helpu busnesau i gynnig modd cynaliadwy o drafnidiaeth ar gyfer eu gweithwyr yn ogystal â gweithio tuag at leihau eu hôl troed carbon, gan gefnogi ymrwymiad y Cyngor tuag at gyrraedd sero net erbyn 2030.
"Gobeithiwn bydd y prosiect yma hefyd yn cefnogi'r lleihad mewn traffig yn yr ardal.
"Nid ond busnesau bydd yn elwa o hyn, chwaith - gall pobl sy'n byw ym Merthyr Tudful hefyd benthyg un o'r deg o e-feiciau sydd ar gael, yn ogystal ag helmed, clo a chawell.
"Bydd swyddogion prosiect Sustrans hefyd yn rhoi hyfforddiant i chi er mwyn sicrhau eich bod chi'n hyderus wrth ddefnyddio'r e-feic cyn i chi fenthyg un."
Mae'r fenter yma wedi' ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFG) sy'n ffurfio rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a bydd yn ymrwymo dros £2.6bn o nawdd ar gyfer buddsoddiad lleol ar led yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Ei phwrpas yw cynyddu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw, yn ogystal â gwella gwasanaethau cyhoeddus, adfer teimlad o gymuned, a grymuso cymunedau.
Gall busnesau lleol, fel tafarn The Butcher's Arms ym Mhontsticill, benthyg e-feiciau am ddim am gyfnod o 12 wythnos. Llun gan: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Gwneud e-feiciau'n hygyrch ac ar gael i'r gymuned leol
Andrew Owen, owner of The Butcher's Arms, said:
Dwedodd Andrew Owen, perchennog The Butcher's Arms:
"Mae'r e-feiciau'n rhoi cyfle unigryw i ni gynnig gwasanaethau ar gyfer ein cymuned, wrth i ni gadw ein haddewid datgarboneiddio.
"Mae'n ein caniatáu i ychwanegu llwyth o gyfleusterau i'n busnes, yn ein galluogi ni i gynnig gwasanaethau cludo bwyd - efallai hyd yn oed gwasanaethau cludo siopa - i'n cymuned fach, ond sy'n heneiddio ym Mhontsticill."
Dwedodd Charlie Gordon, Cydlynydd Prosiect Sustrans Cymru:
"Mae'n fendigedig ein bod ni'n gallu dod ag E-Symud i Ferthyr, hwb wirioneddol yng nghymoedd de Cymru a gall elwa o'r math yma o brosiect.
"Mae E-Symud yn rhoi'r cyfle i fusnesau a phobl cael profi e-feic am ddim, mae'n rhoi'r rhyddid a'r gallu iddynt roi cyfle arnynt ar gyfer ei hunain.
"Rydym yn hynod o falch i fod yn weithio ym Merthyr Tudful, yn helpu rhoi'r cyfle i bobl profi modd o drafnidiaeth sy'n hwylus, cynaliadwy a rhad - gallwch bweru'r batri yn eich cartref neu yn y gwaith a theithio o gwmpas yn gyflym ac yn hawdd.
"Mae e-feiciau'n gallu arbed arian i chi ar danwydd, maent yn helpu chi i gadw'n heini, maent yn gallu eich cludo chi'n bellach na feiciau arferol, ac maent yn wneud bryniau'n lot hawsach."
Mae busnesau a mudiadau sydd eisoes wedi defnyddio'r prosiect E-Symud wedi adrodd manteision cyson, megis gwelliannau i'w ffitrwydd, i'w lles, ac i'w annibyniaeth a hyder.