Mae Pennaeth Partneriaethau De Lloegr, Jon Usher, yn sôn am gyhoeddiad Cyngor Dinas Bryste am becyn o welliannau trafnidiaeth mawr, i helpu i gadw'r ddinas i symud drwy'r cyfyngiadau symud a thu hwnt.
"Rydym yn croesawu'r mesurau brys sy'n cael eu cymryd gan Gyngor Dinas Bryste i wneud lle i bobl gerdded a beicio yn y ddinas ac o'i chwmpas.
"Mae'r cynigion hyn yn ddigynsail o ran maint ac uchelgais ym Mryste. Dylid dathlu gwaith swyddogion ac arweinyddiaeth Maer Bryste, Marvin Rees a'r Cynghorydd Kye Dudd ar yr adeg heriol hon.
"Er mwyn sicrhau system drafnidiaeth gyhoeddus weithredol i'r rhai sydd ei hangen fwyaf wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu codi, mae'n hanfodol bod pobl yn gallu parhau i fynd o gwmpas yn ddiogel ar droed ac ar feic.
Cynyddu diogelwch ar gyfer cerdded a beicio yn y ddinas
"Gwyddom o'n hadroddiad Bywyd Beicio fod 44% o drigolion Bryste yn nodi diogelwch fel y rhwystr rhif un sy'n eu hatal rhag beicio neu feicio mwy.
"Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn allweddol i ddarparu'r sicrwydd a'r llwybrau diogel sydd eu hangen i helpu pobl i symud o amgylch y ddinas.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd modd eu gwneud yn barhaol wrth i ni gyd ddod i arfer â normal newydd ar ôl Covid.
Lefelau uchel o gefnogaeth y cyhoedd ar gyfer gwell darpariaeth beicio
"Mae'n bwysig nodi, hyd yn oed cyn yr argyfwng presennol, bod 70% o drigolion Bryste yn cefnogi adeiladu lonydd beicio mwy diogel ar y ffordd, hyd yn oed pan oedd hyn yn golygu llai o le i draffig eraill.
"Ers y cyfnod clo, rydyn ni wedi gweld ffrwydrad o bobl yn mynd yn ôl ar feic, neu'n mwynhau #WalkFromHome. Mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o gloi'r buddion rydyn ni wedi'u profi dros yr wyth wythnos ddiwethaf o aer glanach.
"Bydd hyn yn rhoi Bryste ar y ffordd i gyrraedd ei thargedau argyfwng hinsawdd.
Egin adferiad gwyrdd yng Ngorllewin Lloegr
"Mae'r ymyriadau a gyhoeddwyd heddiw yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad i waith a siopau lleol yn ddiogel, gan roi hwb i'n hadferiad economaidd.
"Gyda'r datganiad cadarnhaol hefyd gan y Maer Tim Bowles ynghylch teithio llesol, rydym yn dechrau gweld egin adferiad gwyrdd yng Ngorllewin Lloegr.
"Rydym yn llongyfarch Cyngor Dinas Bryste am y camau hyn a fydd yn helpu pobl i adael y car gartref."