Ddydd Sul 24 Mai cyhoeddwyd erthygl gan y newyddiadurwr, Rod Liddle yn y Sunday Times a allai annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n peryglu diogelwch eraill. Mae ein Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Allanol, Steve Brooks, yn ymateb i'r sylwadau a wnaed.
Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Allanol:
"Mae Sustrans yn parhau i fod yn siomedig iawn ac yn bryderus am yr erthygl Sunday Times a ysgrifennwyd gan Rod Liddle, a gyhoeddwyd ar 24 Mai 2020.
Yn yr erthygl, mae Liddle yn ysgrifennu ei bod "o mor demtasiwn" achosi niwed corfforol i feicwyr.
"Felly, rydym yn rhannu barn llawer o bobl y gallai'r sylwadau sydd wedi'u cynnwys yn yr erthygl annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n peryglu diogelwch eraill.
"Mae nifer o adroddiadau eisoes wedi bod am weithgarwch peryglus ac anghyfreithlon o'r fath, a lle mae digwyddiadau'n digwydd, rydym yn annog pobl i gysylltu â'r heddlu.
"Er bod y cyhoeddiad wedi ymateb drwy honni bod sylwadau'r newyddiadurwr yn ddychanol, nid ydym yn teimlo bod hyn yn ymateb digonol i'r mater dan sylw.
"Rydym felly yn annog y Sunday Times i fyfyrio ymhellach ar ddifrifoldeb y mater hwn ac i gymryd agwedd olygyddol fwy cyfrifol yn y dyfodol drwy gydnabod goblygiadau'r iaith a ddefnyddir yn eu cyhoeddi.
"Byddwn yn parhau i fonitro ymateb y Sunday Times i'r erthygl a'r cwynion dilynol, a diolch i'n holl wirfoddolwyr, cefnogwyr a'r cyhoedd sydd wedi lleisio eu pryderon i ni."