Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2 biliwn o gyllid ar gyfer cerdded a beicio gyda'r £250 miliwn cyntaf ar gael ar unwaith i gefnogi ehangu palmentydd, lonydd beiciau dros dro a strydoedd ar gau i draffig modur i gefnogi ymbellhau cymdeithasol wrth i ni symud allan o'r cyfnod clo. Mae Prif Swyddog Gweithredol Sustrans, Xavier Brice, ar ran y Gynghrair Cerdded a Beicio, yn ymateb i'r cyhoeddiad hwn.
"Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU o £250 miliwn ar unwaith ar gyfer lonydd beicio gwarchodedig newydd dros dro, ehangu llwybrau troed ac i gefnogi strydoedd di-gar, beicio, bysiau a cherdded er mwyn caniatáu cadw pellter cymdeithasol wrth i ni ddechrau symud allan o'r cyfnod clo.
"Mae systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ond ni fyddant yn gallu gweithredu'n llawn am beth amser oherwydd ymbellhau cymdeithasol.
"Ni all ein trefi a'n dinasoedd ymdopi â'r cynnydd mewn teithiau car preifat y gallai hyn eu hachosi.
"Yn hytrach mae'n rhaid i ni gynyddu cerdded a beicio.
"Ni fydd hyn yn helpu gyda chadw pellter cymdeithasol yn unig. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, llygredd aer ac iechyd y cyhoedd, gan leihau'r baich ar ein GIG.
"Mae'r cyllid hwn yn gam cyntaf sy'n caniatáu i fwy o awdurdodau lleol roi mesurau dros dro ar waith fel y gall mwy o bobl symud o gwmpas yn ddiogel ac yn weithredol wrth i ni ddod allan o argyfwng Covid-19.
"Llywodraeth y DU o £2 biliwn o gyllid ar gyfer cerdded a beicio yn y tymor hwy, gyda disgwyl cynllun i gefnogi'r cyllid hwn ym mis Mehefin, yw'r cam nesaf o ran helpu i greu newid tymor hir go iawn yn y ffordd yr ydym yn symud o amgylch ein trefi a'n dinasoedd a dylid ei ddefnyddio hefyd i helpu i gefnogi pobl newydd a dychwelyd i feicio.
"Wrth i ni ddechrau ailadeiladu ar ôl y pandemig Covid-19 dinistriol hwn, rydym yn annog pob Awdurdod Lleol i ddefnyddio'r cyllid hwn cyn gynted â phosibl i wneud y newidiadau sydd eu hangen.
"Mae'r Gynghrair Cerdded a Beicio yma i helpu a rhannu ein harbenigedd gyda'r cyhoedd ac awdurdodau lleol wrth i ni addasu a chreu amgylcheddau sy'n newid, boed yn gynghorion ar gyfer beicio a cherdded neu helpu i roi seilwaith newydd ar waith.
"Mae'n hanfodol wrth symud ymlaen nad ydym yn datrys un argyfwng trwy barhau ag eraill ac yn lle hynny creu lleoedd iachach, hapusach a gwyrddach yr ydym i gyd eisiau byw ynddynt."
- Prif Swyddog Gweithredol Sustrans Xavier Brice, ar ran y Gynghrair Cerdded a Beicio
Mae'r Gynghrair Cerdded a Beicio yn cynnwys y Gymdeithas Beiciau, British Cycling, Cycling UK, Living Streets, The Ramblers a Sustrans.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Anna Galandzij, Rheolwr Gwasg a Chyfryngau y DU, 07557915648, anna.galandzij@sustrans.org.uk,
Emily Edwards, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, 07825 904266, emily.edwards@sustrans.org.uk