Cyhoeddedig: 30th MEDI 2019

Gwariant trafnidiaeth yn mynd i'r cyfeiriad anghywir - Ymateb Sustrans

Mae Xavier Brice, Prif Weithredwr Sustrans, yn ymateb i'r cyhoeddiad diweddar y bydd £25bn yn cael ei wario ar wella ffyrdd Lloegr.

Heavily congested traffic

Wrth sôn am y cyhoeddiad o £25 biliwn ar gyfer seilwaith a wnaed gan y Canghellor Sajid Javid yng nghynhadledd y blaid Geidwadol, dywedodd Xavier Brice, prif weithredwr yr elusen cerdded a beicio Sustrans:

"Roedd y cyhoeddiad heddiw yn gyfle a gollwyd i flaenoriaethu newid hinsawdd o fewn gwariant ar drafnidiaeth.  Gwyddom mai trafnidiaeth yw'r cyfrannwr mwyaf at allyriadau hinsawdd y DU, ac mae angen gwneud llawer mwy i helpu pobl i wneud dewisiadau teithio glanach, mwy cynaliadwy, yn enwedig ar deithiau byrrach mewn trefi a dinasoedd.

"Yn hanesyddol, mae llywodraethau wedi canolbwyntio ar wariant ar adeiladu ffyrdd, ac eto mae'r holl dystiolaeth yn cyfeirio at hyn ond yn gwaethygu'r argyfwng hinsawdd presennol.

"Mae gan Lywodraeth y DU gyfle pwysig i ddefnyddio'r adolygiad gwariant nesaf i newid ei ffocws yn sylweddol."

Roedd y pot ariannu gwerth £25bn eisoes wedi'i neilltuo dros dro gan ei ragflaenydd, Philip Hammond, ond bydd Mr Javid yn cadarnhau y bydd yn cael ei wario ar uwchraddio 14 o brif ffyrdd Lloegr.

Rhannwch y dudalen hon