Cyhoeddedig: 25th TACHWEDD 2024

Hygyrchedd i gael ei wella ar lwybr arfordir Sir y Fflint o ganlyniad i ymgyrch cymunedol

Bydd rhwystrau mynediad ar Lwybr Arfordir Cymru yn Sir y Fflint, sydd hefyd yn ffurfio rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, yn cael eu gwaredu o ganlyniad i ymgyrchu cymunedol. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo at weithrediad cyflym er mwyn sicrhau gwell hygyrchedd i bawb, mewn partneriaeth â Sustrans a llwyth o ymgyrchwyr, mudiadau a phartneriaid eraill.

A recumbent trike is positioned in front of an A-frame barrier on a cycle path, demonstrating how it's unable to pass through.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno gwaredu’r rhwystrau mynediad oddi ar ei rannau o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n ffurfio rhan o Ffordd 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Llun gan: Deborah Jayne.

Yn dilyn ymlaen o ymgyrch cymunedol llwyddiannus, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i ddechrau gwaith i wella hygyrchedd  ar Lwybr Arfordir Cymru, sy’n ffurfio rhan o RBC 5.

Diolch i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth y DU, wedi’ sicrhau ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint, mae arolygiad trylwyr o hygyrchedd wedi’ gwblhau.

Croesawodd Trefnu Cymunedol Cymru (TCC) a’i gynghreiriaid y cyhoeddiad uchelgeisiol gan yr awdurdod leol.

Mae TCC yn elusen sy’n gwneud gwaith trefnu cymunedol, wedi ymrwymo at fynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd i gymunedau gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae’r ymgyrch i waredu’r rhwystrau oddi ar rhannau Llwybr Arfordir Cymru yn Sir y Fflint – wedi bod yn ymdrech cydweithredol rhwng gwahanol grwpiau ac mudiadau, gan gynnwys:

Sustrans Cymru, Cycling UK, The FDF Centre for Independent Living, Disambled Ramblers UK, Wheels for Wellbeing, Transport for All, Clwb Rygbi Cadair Olwyn a Chwaraeon Anabl Crusaders Gogledd Cymru, a Chester Wheelers.

Gan weithio efo’i bartneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans Cymru, a chynghorwyr lleol, bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gwaredu rhwystrau mynediad eleni er mwyn sicrhau bod yr arfordir ar agor ac yn hygyrch i bawb cael ei ddefnyddio.

 

Ymgyrchu wedi’ arwain gan y gymuned sydd am arwain at newid go iawn

Bydd y newyddion yma’n dod fel llwyddiant enfawr ar gyfer ymgyrchwyr lleol, efo rhai – fel The FDF Centre for Independent Living a Chester Wheelers – wedi bod yn galw am newidiadau am naw flwyddyn.

Dwedodd Jan Thomas, Prif Swyddog The FDF Centre for Independent Living, “Croesawn y newyddion bod ar ôl naw mlynedd mae Cyngor Sir y Fflint wedi gwneud y penderfyniad bod y rhwystrau ar hyd Llwybr yr Arfordir yn wahaniaethol a byddent nawr yn cael gwared ohonynt.”

“Hoffwn ddiolch TCC am arwain ar yr ymgyrch yma a dod ag amrediad eang o grwpiau a chefnogwyr at ei gilydd i gymryd rhan, i ennill mwy o annibyniaeth ar gyfer pobl anabl.”

Ar gyfer pobl fel Debbie, mae rhwystrau mynediad wedi’ chyfyngu ei defnydd hi o’r Llwybr Arfordir a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ei threic gorweddol.

Dwedodd David Hughes, Swyddog Cymunedol TCC, “Hoffwn wir dweud diolch i’r grwpiau a’r rheini efo profiad bywiadwy sydd wedi rhannu efo ni effeithiau negyddol mae’r rhwystrau yma wedi cael ar eu hiechyd a’u lles.”

“Mae trefnu cymunedol yn arf pwerus ar gyfer creu newid cadarnhaol, ac mae’r ymgyrch yma wedi bod yn esiampl o’r fath pŵer a gweithrediad cyfunol.”

“Mae’r ddull cydweithredol yma’n cryfhau ein cymunedau, ond hefyd yn maethu teimlad o berthyn a grymuso.”

 

Cyngor Sir y Fflint i symud ymlaen yn benderfynol

Ar ôl dynodi sawl rhwystr mynediad ar hyd blaendraeth Aber Dyfrdwy, bydd y gwaith i’w gwaredu nhw am ddechrau yn Saltney cyn y Nadolig, yn ôl yr awdurdod leol.

Bydd gwarediad y rhwystrau ar hyd yr holl aber am gael ei wneud mewn camau, mewn cytundeb ag Heddlu Gogledd Cymru, ac yn gyfun â phrosiect Parc Arfordir Sir y Fflint.

Dwedodd Cynghorwr Chris Dolphin, Aelod y Cabinet am yr Economi, Amgylchedd a Newid Hinsawdd, “Mae Aber Dyfrdwy yn gaffaeliad naturiol anhygoel i’n cymunedau ni yn Sir y Fflint, ac rwyf yn bles iawn ar ôl misoedd o waith caled a chynllunio gallan nawr gwneud y penderfyniad yma er mwyn sicrhau mwynhad pawb.”

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi datgan bod y gwaith yma’n ffurfio rhan o’i weledigaeth ar gyfer parc arfordir hygyrch, sy’n dathlu’r amgylchedd naturiol a threftadaeth yr arfordir Cymreig.

Dwedodd Cynghorwr Debbie Owen, Aelod Lleol ar gyfer Cei Connah, “Rwyf wedi gweithio’n anodd i gael mater yma wedi’ ystyried ac rwy’n hapus tu hwnt bod, trwy waith datblygiad Parc Arfordir Sir y Fflint, mae’r allbwn yma wedi’ sylweddoli, a bydd y llwybr arfordirol yn hygyrch i bawb yn Sir y Fflint cael mwynhau.”

Yn siarad ar ran Sustrans, ychwanegodd Anthony Jones, Rheolwr Datblygiad Rhwydwaith, “Mae’r newyddion yma’n dyst i grwpiau cymunedol, cynghorwyr lleol, Aelodau’r Senedd ac elusennau’n gweithio ynghyd i gyrraedd nod cyffredin a chynnal hygyrchedd i bawb.”

“Mae’n rhaid i ni diolch a chydnabod y gwaith ymgyrchu parhaol sydd wedi’ wneud gan bobl lleol, yn ogystal â’r awdurdod lleol am ddod i’r penderfyniad gwych yma, un sydd am ei wneud yn haws i bawb cael mynediad at lefydd.”

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru