Cyhoeddedig: 23rd MAWRTH 2020

Llythyr agored i wneud cerdded a beicio yn haws yng nghanol COVID-19

Rydym wedi llofnodi llythyr agored a gyhoeddwyd ddoe gan arbenigwyr blaenllaw ym maes iechyd a thrafnidiaeth yn annog Llywodraeth y DU i wneud cerdded a beicio unigol yn haws yng nghanol yr achosion o Coronafeirws Covid-19.

people walking and on bikes using traffic free path

Mae Sustrans yn cymryd iechyd a lles ein staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a chymunedau rydym yn gweithio gyda nhw o ddifrif.

Ar hyn o bryd rydym yn dilyn canllawiau'r Llywodraeth a'r GIG yn agos.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, gydag angen penodol i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, y rhai 70 oed neu hŷn, pobl â chyflwr iechyd sylfaenol, a'r rhai sy'n feichiog.

Bydd cadw pellter cymdeithasol yn gwneud llawer o weithgareddau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol yn amhosibl.

Fodd bynnag, gall cerdded a beicio fod yn gydnaws â chadw pellter cymdeithasol, os yw pobl yn gyfrifol. Bydd risgiau trosglwyddo yn isel iawn os yw pobl yn aros 2-3 metr ar wahân.

Ar gyfer siopa, ac i'r rhai sydd angen cymudo, dylid cefnogi cerdded a beicio o hyd.

Mae cerdded a beicio hefyd yn dda ar gyfer iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.

Mae gweithgarwch corfforol, gan gynnwys cerdded a beicio rheolaidd, yn lleihau'r risg o glefydau cardiofasgwlaidd, sawl canser, dementia, diabetes, yn ogystal ag iselder a gorbryder.

Mae'r cyflyrau hyn yn effeithio ar filiynau o bobl, ac mae rhai'n cynyddu'r risg o ganlyniad difrifol os bydd un yn contractio Covid-19.

Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ddiogelu'r hawl i gerdded a beicio'n ddiogel (rhag y risg o haint ac anafiadau traffig) i'r rhai nad ydynt yn dangos symptomau.

Dylai hyn gynnwys sicrhau seilwaith brys, fel bolardiau a gwell goleuadau i wneud beicio a cherdded yn fwy diogel ar gyfer teithio i'r gwaith a siopau.

Dylai'r llywodraeth gyhoeddi canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pobl sy'n cerdded ac yn beicio ar leihau risg, gan gynnwys sicrhau pellter cymdeithasol.

 

Darllenwch y llythyr llawn

Gweld sut rydym yn cefnogi staff, gwirfoddolwyr a'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw yn ystod argyfwng Covid-19

Rhannwch y dudalen hon