Cyhoeddedig: 26th TACHWEDD 2024

Llywodraeth Cymru yn cyllido cytundeb newydd rhaglen Teithiau Iach wedi' ddarparu gan Sustrans Cymru

Mae Sustrans Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth gael ei wobrwyo i ddarparu rhaglen Teithiau Iach Llywodraeth Cymru. Efo'r cytundeb newydd yma wedi' osod mewn lle, gall Sustrans Cymru parhau efo'i waith cefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru i deithio'n gynaliadwy ac yn llesol.

Mae plant a phobl ifanc mewn ysgolion ar led Cymru'n dysgu am fanteision teithio llesol. Llun gan: Jonathan Bewley.

Mae Sustrans Cymru wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, am bron i ddegawd, i ddarparu ymyriadau i ysgolion ar led Cymru.

Mae’r rhaglen Teithiau Iach wedi helpu disgyblion, athrawon, rhieni a gwarchodwyr i ddod yn fwy llesol ar eu teithiau i’r ysgol.

Nod syml sydd gan y rhaglen Teithiau Iach: mae’n rhaglen newid ymddygiad sydd wedi’ ddylunio i annog holl gymuned yr ysgol i gerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i’r ysgol, gan leihau defnydd y car a thagfeydd o gwmpas gatiau’r ysgol yn ystod cyfnodau gollwng a chasglu.

Wedi' ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect yn gweithio gydag ysgolion ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau.

Cafodd gweithgareddau'r rhaglen eu dylunio efo hygyrchedd o fewn feddwl, er mwyn cefnogi disgyblion o unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion anghenion dysgu ychwanegol i gymryd rhan, efo adnoddau sy'n gyfunion â'r cwricwlwm Cymreig diweddaraf.

 

Cynllun am fwy o hwyl a sbri ar y daith i'r ysgol

Mae gan y rhaglen Teithiau Iach newydd amcanion uchelgeisiol i gael mwy o bobl yn cerdded ac olwyno, sgwtera a beicio i'r ysgol.

Gan ymgysylltu â mwy o bencampwyr ysgolion a chymunedol, gan hyfforddi athrawon, rhieni a gwarchodwyr am fanteision ehangach cerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol, mae ein swyddogion Teithiau Iach yn grymuso mwy o bobl i ddewis i adael eu ceir adref.

Ar led Cymru, rydym wedi gweld rhieni yn ysgolion Teithiau Iach yn arwain y ffordd gan drefnu eu bysiau cerdded neu feicio'u hunain, gan ddod ag hwyl a sbri i'r daith i'r ysgol a'r gymuned yn agosach at ei gilydd.

Diolch i werthuso wedi' hymgymryd gan Uned Ymchwil a Monitro Sustrans, mae tystiolaeth sy'n dangos effaith gwirioneddol y rhaglen.

Mae mwy o ddisgyblion yn teithio'n llesol o ganlyniad i'r rhaglen Teithiau Iach, efo teithio llesol fel yn cynyddu gan 12% fel y modd arferol o deithio i'r ysgol ymhlith ysgolion Teithiau Iach.

Mae llai o ddisgyblion yn cael eu gyrru i'r ysgol hefyd, efo defnydd car fel y modd arferol o deithio i'r ysgol yn gostwng gan 14.7%.

A Sustrans staff member delivers a Dr Bike maintenance session to a class of primary school pupils.

Swyddogion Teithiau Iach yn dysgu sgiliau cynnal a chadw beiciau sylfaenol yn Llangollen. Llun gan: Geraint Thomas.

Grymuso cenedlaethau ein dyfodol trwy addysg

Mae swyddogion Teithiau Iach Sustrans Cymru'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen Teithiau Iach, gan ddarparu amrediad o weithgareddau sy'n helpu cefnogi ac annog cymunedau ysgolion i deithio'n llesol.

Mae'r rhain yn cynnwys teithiau cerdded tywys, archwiliadau diogelwch llwybrau, sesiynau cynnal a chadw beiciau a sgiliau beicio, gweithgareddau mapio, astudiaethau monitro llygredd aer, a'r sesiynau byth-boblogaidd sgiliau sgwtera.

Mae hyn fel arfer yn llwyddiant ymhlith plant a rhieni, efo'n swyddogion yn darparu sesiynau plentyn-rhiant hefyd. Gall ysgolion dewis pa sesiynau sy'n gweithio'r gorau ar gyfer eu disgyblion nhw.

Mae swyddogion Teithiau Iach ar gael i gefnogi mentrau o dan arweiniad disgyblion hefyd, megis yr ymgyrch #AndSheCycles sy'n cefnogi merched yn eu harddegau i barhau i deithio'n llesol pan eu bod nhw'n newid i ysgol uwchradd.

Yn ystod y flwyddyn prosiect 2023-24, darparodd ein swyddogion Teithiau Iach dros 330 o weithgareddau i 68 o ysgolion ar draws y wlad.

Dros gyfnod 4-blwyddyn ddiwethaf y prosiect, cafodd dros 2,000 o weithgareddau eu darparu mewn 182 ysgol ar led Cymru.

"Rydym yn gyffrous ar gyfer cyfnod nesaf prosiect Teithiau Iach," medd Aoife Blight, Rheolwr Rhaglen Sustrans Cymru.

"Mae ein swyddogion Teithiau Iach eisoes yn darparu sesiynau cerdded, sgwtera a beicio cyffrous i blant, pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru."

"Mae'r gwaith pwysig yma'n cefnogi'r genedl nesaf o ddinasyddion moesegol wrth iddynt ddewis sut i deithio, ac i gymryd gofal o'u cymunedau."

Mae'r gweithgareddau yma'n ceisio galluogi ein plant a phobl ifanc yn uniongyrchol, fel eu bod nhw'n fwy hyderus ac fel bod ganddyn nhw'r cyfle i ddatblygu sgiliau gwirioneddol ac ymarferol.

Mae swyddogion Teithiau Iach Sustrans Cymru, weithiau ynghyd â'n gwirfoddolwyr anhygoel ni, yn gweithio efo ysgolion i nodi ymhle mae'r angen mwyaf am gymorth - a hynny weithiau'n arwain at ganlyniadau nodedig.

Pupils and adults taking part in a bike bus through Cardiff.

Mae bysiau beic wedi dod yn fodd poblogaidd iawn o annog plant, pobl ifanc a'u hoedolion nhw i deithio'n llesol i'r ysgol. Llun gan: Thomas Hughes.

Pwysigrwydd teithio llesol ymhlith cymuned yr ysgol

Mae rhai o amcanion allweddol y rhaglen Teithiau Iach yn cynnwys rhoi'r offer a'r sgiliau i gymunedau ysgolion fel iddynt hyrwyddo a chefnogi teithio llesol ymhlith eu hysgolion a'r gymuned ehangach.

Trwy sesiynau cynnal a chadw sylfaenol, gweithgareddau sy'n annog ymwybyddiaeth tuag at amgylcheddau lleol, ac adnoddau dosbarth sy'n ymgysylltu a disgyblion, mae'r rhaglen Teithiau Iach yn cynnig ffordd uniongyrchol i ddisgyblion ledled Cymru dysgu, datblygu ac ymgysylltu ag ymarferion teithio iachach.

Mae llawer o'r gweithgareddau yma hefyd ar gael i athrawon a phencampwyr ysgolion o gymuned ehangach yr ysgol, megis rhieni, gwarchodwyr a llywodraethwyr ysgolion.

Mae swyddogion Teithiau Iach yn ceisio cysylltu pencampwyr ysgolion yn ystod digwyddiadau rhyngweithio a hyfforddiant.

Mae hyn yn creu'r cyfle am rwydwaith o glystyrau ysgolion, e.e. ysgolion cynradd sy'n bwydo mewn i ysgolion uwchradd efo'r union un ffocws ar gefnogi plant i deithio'n llesol.

Mae hyn yn hynod o bwysig wrth i ddisgyblion cynyddu hyder, gan deithio i ysgol uwchradd.

Gan ymgysylltu a'r grŵp ehangach yma, mae'r rhaglen Teithiau Iach yn creu amgylchedd cynaliadwy i ysgolion parhau i annog cerdded, olwyno, sgwtera a beicio mewn i'r dyfodol.

Amcan y rhaglen Teithiau Iach yw addysgu plant, pobl ifanc a'u hoedolion nhw am ffyrdd cynaliadwy o symud o gwmpas eu cymuned.

Ysgogiad arall i gadw o fewn feddwl yw'r dyhead o ddod yn Ysgol Teithio Llesol.

Mae ysgolion Teithio Llesol yn cael ei ychwanegu at gystadleuaeth Gwobr Ysgol Teithio Llesol yn awtomatig. Dyma ffordd hwylus o annog ysgolion i gadw eu cymunedau i symud.

Gall ysgolion cwblhau cyfres o dasgau i brofi eu tystiolaeth o fod yn Ysgol Teithio Llesol a chael eu gwobrwyo efo gwobrau lefel Efydd, Arian neu Aur.

Mae ein swyddogion Teithiau Iach yn cynnig cefnogaeth i ysgolion cyflawni’r amcanion yma.

Mae swyddogion Teithiau Iach hefyd yn cefnogi pencampwyr ysgol i gwblhau Cynlluniau Teithio Llesol Ysgol.

Maent yn gynlluniau i ddeall anghenion isadeiledd yr ysgol yn ogystal ag unrhyw newidiadau ymddygiad sydd angen.

O'r rhain, gall awdurdodau lleol ac ysgolion gweithio efo'i gilydd i wneud y ffyrdd i'r ysgol yn fwy diogel i bawb.

Maent yn rhan hanfodol wrth geisio am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Maent hefyd yn ddefnyddiol fel data ar gyfer bwydo mewn i geisiadau'r Gronfa Teithio Llesol.

Mae gan dîm Teithiau Iach yn Sustrans Cymru perthnasau da efo swyddogion awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn aml yn arwain at newidiadau cadarnhaol ac arloesiadau ar gyfer ysgolion.

Er enghraifft, mae swyddogion Teithiau Iach yn cefnogi prawf caead stryd ysgolion tu fas i ysgolion Teithiau Iach yng Nghasnewydd, Sir Ddinbych a Bro Morgannwg, gan greu llefydd diogel a hwylus i blant cerdded, olwyno, sgwtera a beicio i'r ysgol.

Am unrhyw ysgolion sydd â diddordeb mewn ymuno â'r rhaglen Teithiau Iach, mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen we'r prosiect.

Neu, fel arall, gallwch gysylltu â'n tîm ysgolion ar e-bost am fwy o wybodaeth, a bydd ein tîm yn hapus i drafod sut gallan helpu gorau.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf ar led y DU