Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi rhyddhau canfyddiadau Arolwg Teithio Cenedlaethol 2018, sy'n archwilio sut mae trigolion Lloegr yn teithio.
Defnyddir y data i asesu effeithiau polisïau trafnidiaeth, monitro tueddiadau mewn teithio, ac egluro patrymau trafnidiaeth ymhlith gwahanol grwpiau o bobl.
Mae'r canlyniadau diweddaraf yn dangos mai cerbydau modur yw'r dull cludo amlycaf o hyd i drigolion Lloegr, gyda 61% o'r holl deithiau yn cael eu gwneud mewn car. Gan fod lefelau beicio wedi aros ar 2%, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy er mwyn grymuso pobl i ddefnyddio dulliau teithio gweithredol.
Wrth siarad am y canfyddiadau, dywedodd Xavier Brice, Prif Weithredwr Sustrans:
"Yn 2018 gwelwyd lefelau beicio yn Lloegr yn parhau i fod ar 2% ar lefel genedlaethol, gyda chynnydd bach yn y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr, yn dangos bod angen gwneud llawer mwy yn gyffredinol i gynyddu beicio ledled y wlad.
"Mae canfyddiadau asesiad mwyaf y DU o feicio mewn dinasoedd, Bywyd Beicio 2017, yn dangos awydd mawr gan y cyhoedd i ddechrau reidio beic, gyda 53% o'r ymatebwyr yn nodi yr hoffent ddechrau beicio neu feicio mwy. Fodd bynnag, diogelwch yw'r prif rwystr o hyd, gyda 77% o bobl yn cytuno bod angen gwella diogelwch beiciau mewn trefi a dinasoedd.
"Mae tystiolaeth yn dangos, pan ddarperir lle pwrpasol ar gyfer reidio beic, y bydd cynnydd yn lefelau beicio yn dilyn.
"Ym Mryste, dinas lle mae 75 milltir o lwybrau beicio wedi'u gwahanu'n gorfforol oddi wrth gerbydau, mae 25% o'r trigolion yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos.
"Er mwyn parhau i gynyddu siwrneiau a wneir ar feic, a chyrraedd y targedau cerdded a beicio a osodwyd ar gyfer 2025, mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i wneud teithio llesol yn haws, yn fwy diogel, ac yn fwy apelgar na gyrru ar gyfer teithiau byr, a dim ond trwy fuddsoddiad ar raddfa fawr mewn seilwaith cerdded a beicio y gellir cyflawni hyn."