Mae ffigyrau newydd yn dangos bod rhieni a phreswylwyr ar draws Prydain Fawr yn cefnogi cau strydoedd i geir y tu allan i gatiau'r ysgol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu.
Mae arolwg diweddar, a gynhaliwyd gan Sustrans, wedi datgelu y byddai 90% o rieni a thrigolion yn cefnogi cau strydoedd i geir yn fwy rheolaidd y tu allan i ysgolion.
Allan o 954 o ymatebwyr, roedd tri chwarter (75%) yn poeni am effeithiau iechyd mygdarth gwacáu ar ddisgyblion yn ystod amseroedd gollwng a chasglu ysgol. Roedd 72% o'r ymatebwyr yn cytuno bod y stryd yn teimlo'n fwy diogel i'w defnyddio pan oedd ffyrdd wedi cau.
Wrth siarad am eu profiad o gau strydoedd yn ddiweddar y tu allan i Ysgol Gynradd Milngavie yn Nwyrain Swydd Dunbarton, dywedodd un o drigolion lleol: "Roedd yn hyfryd gweld plant yn chwarae heb ofni traffig. Roedd yn gwneud i mi hiraethu am gyfnod pan nad oedd ceir mor gyffredin."
Ar wahân i rieni a phreswylwyr, gofynnwyd i 3,434 o ddisgyblion roi eu barn ar ansawdd aer. Dywedodd bron i hanner (45%) y disgyblion a holwyd eu bod yn poeni am lefelau llygredd aer yn eu hysgol.
Mae canlyniadau'r arolwg wedi cael eu cyhoeddi wrth i ysgolion ledled y DU ddathlu Wythnos Beicio i'r Ysgol yr wythnos hon. Mae Sustrans yn credu bod gan bob plentyn yn y DU yr hawl i daith ddiogel i'r ysgol ar droed neu ar feic ac mae'n annog llywodraethau ar bob lefel i flaenoriaethu seilwaith cerdded a beicio o ansawdd uchel i wneud yr amgylchedd o amgylch ysgolion yn fwy diogel, yn lanach ac yn iachach i ddisgyblion.
Trafnidiaeth ar y ffyrdd sy'n gyfrifol am 26% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, gyda'r prif ffynonellau yn geir petrol a disel.
Dywedodd Xavier Brice, Prif Swyddog Gweithredol Sustrans: "Rydyn ni i gyd yn gwybod ein bod ni'n byw gyda lefelau peryglus o lygredd aer yn ein trefi a'n dinasoedd. Er gwaethaf hyn, mae ffigyrau diweddaraf yr Arolwg Teithio Cenedlaethol yn dangos bod 45% o blant ysgolion cynradd Lloegr yn teithio i'r ysgol mewn car - cynnydd o 1% ers ffigyrau'r llynedd.
"Mae'r ffigyrau yma yn bryderus o uchel, gyda'r daith gyfartalog i'r ysgol gynradd ond yn 1.6 milltir - pellter y gellir ei feicio yn hawdd. Er mwyn gweld y nifer sy'n cymryd rhan mewn beicio, mae angen i ni ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gerdded a beicio i'r ysgol. Bydd hyn yn atal y rhai sydd fwyaf agored i niwed, fel plant, rhag bod yn agored i lefelau gwenwynig o lygredd aer wrth eu galluogi i slot mewn gweithgarwch corfforol yn hawdd i'w diwrnod.
"Mae angen gweithredu ar frys gan lywodraethau ar bob lefel i ddarparu buddsoddiad ystyrlon mewn seilwaith cerdded a beicio fel bod pob plentyn yn gallu teithio i'r ysgol ar droed neu ar feic mewn diogelwch a gyda hyder.
"Byddai hyn, ynghyd â newid mewn deddfwriaeth i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol y tu allan i Lundain orfodi cau strydoedd ysgolion yn ystod amseroedd gollwng a chasglu, yn gwneud yr amgylchedd o amgylch ysgolion yn fwy diogel ac yn fwy dymunol i blant gerdded a beicio."
Datgelodd y ceisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar gan UK100, rhwydwaith o arweinwyr lleol sy'n ymgyrchu ar aer glân, mai dim ond 0.4% o ysgolion cynradd a gyflwynodd "strydoedd ysgol" i atal rhieni rhag gyrru eu plant i'r ysgol.
Dywedodd Polly Billington, Cyfarwyddwr UK100, rhwydwaith o arweinwyr lleol:
"Mae rhieni'n hoffi'r syniad o strydoedd tawel, di-gar ger ysgolion pan mae ofn traffig a llygredd aer yn bryder bob dydd i deuluoedd. Dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol ddod o hyd i ffyrdd o wneud i hyn ddigwydd: trwy fuddsoddi mewn llwybrau beicio a llwybrau mwy diogel, trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a strydoedd mwy diogel, wedi'u goleuo'n dda.
"Mae llawer o gynghorau y tu allan i Lundain yn ei chael hi'n anodd gorfodi strydoedd di-gar, felly bydd angen pwerau ac adnoddau llywodraeth ganolog arnynt i wneud hynny. Ond gall yr ymchwil hon eu sicrhau bod ganddynt gefnogaeth rhieni pan fyddant yn gweithredu."