Heddiw rydym yn lansio ein maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2019. Mae'r maniffesto yn galw ar bob plaid wleidyddol i gymryd camau beiddgar ar allyriadau trafnidiaeth ffyrdd a blaenoriaethu cerdded a beicio, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mewn cymdogaeth 20 munud, mae preswylwyr o fewn 20 munud ar droed o'u gwasanaethau a'u hanghenion bob dydd.
Ymhlith ei bum prif argymhellion, mae'n gofyn i ymgeiswyr ymrwymo i egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud ar gyfer pob dinas a thref fel y gall pawb gerdded a beicio ar gyfer eu gwasanaethau a'u hanghenion bob dydd.
Mae'r argyfwng newid hinsawdd ymhlith y risgiau amgylcheddol ac iechyd mwyaf yn yr21ain ganrif. Mae trafnidiaeth yn gyfrifol am 26% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, gyda'r prif ffynonellau yn geir petrol a disel.
Mae maniffesto Sustrans yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i ymgymryd â phum prif ofyniad:
- Darparu buddsoddiad hirdymor parhaus mewn cerdded a beicio. Mae hyn yn cynnwys o leiaf 5% o'r gyllideb drafnidiaeth i'w gwario ar gerdded a beicio erbyn 2020/21, gan godi i o leiaf 10% cyn 2024/25; a buddsoddiad o £72m y flwyddyn yn y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
- Ymrwymo i egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud ar gyfer pob dinas a thref.
- Trawsnewid taith yr ysgol i helpu plant i gerdded, beicio a sgwtera mewn diogelwch a gyda hyder.
- Sicrhau bod lleoedd yn hygyrch i bawb gerdded, beicio ac olwyn trwy weithredu terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ym mhob ardal adeiledig a gwahardd parcio palmant.
- Sefydlu rhaglen Greenways ledled y DU fel bod gan bawb fynediad cyfartal i'r amgylchedd naturiol.
"Mae'r maniffesto hwn yn nodi'n glir y bydd gofyn i'r llywodraeth nesaf ddangos arweiniad ar ffrwyno allyriadau trafnidiaeth ffyrdd a gwneud cerdded a beicio'r opsiynau hawsaf a mwyaf cyfleus i fwy o bobl, waeth beth fo'u rhyw, oedran a galluoedd ar frys. Bydd cymdogaethau lle mae pobl yn byw o fewn taith gerdded 20 munud i wasanaethau bob dydd yn hanfodol i greu dyfodol iach a di-garbon i bawb."
Mae Sustrans wedi tynnu sylw ers tro at yr angen i Lywodraeth y DU helpu pobl i leihau eu dibyniaeth ar y car a blaenoriaethu buddsoddiad mewn cerdded a beicio. Er i'r Strategaeth Buddsoddi Beicio a Cherdded gael ei lansio yn 2017, nid yw lefelau buddsoddi wedi bod yn ddigonol i gyrraedd ei thargedau i ddyblu teithiau beicio ac mae angen cynnydd pellach mewn cerdded.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Anna Galandzij, Uwch Swyddog y Wasg, anna.galandzij@sustrans.org.uk, 07557915648
Liv Denne, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau,liv.denne@sustrans.org.uk, 07768 035318
Emily Edwards, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau, emily.edwards@sustrans.org.uk, 07825 904266