Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad Llwybrau Teithio Llesol gyda’r grant Diogelwch Ffyrdd a’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae myfyrwyr yn Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Sustrans Cymru ar ymgynghoriad Llwybrau Diogel yn y Gymuned.
Mae grantiau Llwybrau Diogel, ynghyd â chefnogaeth ein Rhaglen Teithiau Iach yn helpu ysgolion fel Ysgol Gynradd Radnor i deithio'n ddiogel, yn hawdd ac yn hyderus i'r ysgol ar droed, beic neu sgwter.
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y plant sy'n teithio'n llesol i'r ysgol.
Gwneir hyn yn bosibl trwy ariannu prosiectau gan gynnwys Teithiau Iach a Llwybrau Diogel, i wella'r amgylchedd ar gyfer cerdded, beicio, olwynio a sgwtera o amgylch ysgolion.
Mae gwneud llwybrau teithio llesol fwy diogel yn rhan bwysig o'r broses i gynyddu lefelau teithio llesol ymhlith cymunedau ysgol yn llwyddiannus.
Pobl ifanc yn cael dweud eu dweud
Mae Ysgol Gynradd Radnor, Treganna yn rhan o'n Rhaglen Teithiau Iach, ar ôl dangos ymrwymiad cryf eisoes i deithio llesol ers 2017.
Yn ddiweddar, mae myfyrwyr Radnor wedi bod yn cymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu Llwybrau Diogel yn y Gymuned i ystyried gwelliannau i’w ddatblygu ar y strydoedd o amgylch yr ysgol.
Roedd hwn yn gyfle pwysig i ganiatáu i bobl ifanc ddweud eu dweud am ddatblygiadau teithio llesol y dyfodol.
Gofynnwyd i fyfyrwyr edrych ar gynlluniau, ac ateb cwestiynau arolwg i drafod a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â'r datblygiadau a awgrymwyd.
Rhoddodd myfyrwyr adborth ar eu syniadau eu hunain, gan ddefnyddio map grid i nodi lleoliadau penodol ar hyd llwybrau teithio yr oedd ganddynt bryderon amdano.
Rhai syniadau a gynigiwyd oedd mannau croesi anffurfiol, hidlwyr traffig, ardaloedd palmant estynedig a sicanau tawelu traffig.
Dywedodd mwyafrif y disgyblion yr hoffent weld blaenoriaeth ar gyfer beicio ar strydoedd eu hysgol ac egluro eu rhesymau dros awgrymu newidiadau.
Mae'r ymgynghoriad yn enghraifft wych o bobl ifanc yn cael cyfle i leisio barn ar ddatblygiadau teithio sy'n effeithio ar eu teithiau i'r ysgol yn y dyfodol.
Tîm Teithio Llesol Cyngor Caerdydd
Mae adborth y myfyriwr, ynghyd â syniadau newydd wedi'u cyflwyno i Gyngor Caerdydd.
Dyfodol Teithio Llesol yn Ysgol Gynradd Radnor
Mae Patrick Williams, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol Sustrans Cymru ar gyfer y Gronfa Teithio Llesol, yn myfyrio ar y buddion a’r canlyniadau yn seiliedig ar awgrymiadau’r myfyrwyr.
Dyma’r awgrymiadau allweddol, a ddaeth o'r gwaith ymgysylltu a gan y myfyrwyr:
- gwell mannau croesi anffurfiol
- ardaloedd palmant estynedig
- gwyrddni naturiol
- palmentydd wedi'u hehangu
- blaenoriaeth ar gyfer beicio
Yn Ysgol Gynradd Radnor, mae'r cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn ogystal â'n Rhaglen Teithiau Iach yn parhau i gefnogi teithio llesol ar gyfer ffyrdd mwy diogel, aer glanach a phlant iachach.
Gall sicrhau bod llwybrau i'r ysgol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch roi'r hyder i fyfyrwyr deithio'n llesol yn amlach.