Cyhoeddedig: 18th MAWRTH 2025

Rhaglen Teithiau Iach yn datblygu sgiliau cynnal a chadw beiciau staff ysgolion Gogledd Cymru

Cafodd staff o saith wahanol ysgol yn Ogledd Cymru’r cyfle’n ddiweddar i fynychu sesiwn hyfforddiant ar sgiliau cynnal a chadw beiciau, diolch i’r rhaglen Teithiau Iach, a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y sesiwn ei redeg efo cefnogaeth Beics Antur, menter gymdeithasol wedi’ leoli yng Nghaernarfon.

An adult woman practising bike maintenance on a bike in a maintenance stand.

Mynychodd staff o saith ysgol ar led Gwynedd ac Ynys Môn y sesiwn hyfforddiant ar sgiliau cynnal a chadw beiciau. Llun gan: Sustrans.

Un o amcanion y rhaglen Teithiau Iach, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, yw hybu a chynnal teithio llesol fel modd cynaliadwy o deithio i’r ysgol ar gyfer cymunedau ar led Cymru.

Yn Ogledd Cymru, cafodd staff o saith ysgol ar led Gwynedd ac Ynys Môn y cyfle i fynychu sesiwn hyfforddiant cynnal a chadw beiciau sylfaenol, mewn partneriaeth â Beics Antur, menter gymdeithasol leol o Gaernarfon.

Nod y sesiwn oedd addysgu staff yr ysgolion gwahanol ar wahanol sgiliau ymarferol o ran gwirio a thrwsio problemau sylfaenol, fel eu bod nhw yna’n gallu darparu’r wybodaeth yna ymlaen i’w disgyblion nhw.

 

Rhannu sgiliau a gwybodaeth, datblygu gallu ymhlith cymuned

Cafodd y sesiwn hyfforddiant ei gefnogi gan Tom Workman, mecanig Beics Antur, a’r sesiwn yn cael ei arianni gan raglen ysgolion Sustrans Cymru, sef y rhaglen Teithiau Iach.

Noddir y rhaglen Teithiau Iach gan Lywodraeth Cymru, sy’n frwd i weld mwy o ddisgyblion, staff, a chymuned ehangach ein hysgolion yn teithio’n llesol i’r ysgol.

“Mi wnes i wir fwynhau’r hyfforddiant wedi’ drefnu gan Debbie o Sustrans a’i gyflwyno gan Tom o Feics Antur,” adroddodd athrawes o Ysgol Cymerau.

“Yn yr ysgol, gan ein bod yn annog plant i ddŵad â’i beics, yn aml iawn rydym yn cael plant yn cyrraedd yn gofyn am help, er enghraifft rhywbeth yn bod ar eu brêcs a ninnau ddim yn teimlo digon hyderus i fynd i ymyrryd gyda’r weirs.”

 

Multiple bikes in maintenance stands in a school hall.

Dysgodd yr aelodau o staff sut i wirio beiciau am broblemau sylfaenol a sut i drwsio problemau cyffredin ar feiciau. Llun gan: Sustrans.

“Mae Tom wedi rhoi arweiniad clir i ni ar be’ sy’n bosib i ni yn yr ysgol a be fydd angen sylw pellach gan fecanig beic.”

“Mae ganddom 20 o feics yr ysgol, mae cynnal a chadw cymaint o feics yn gallu bod yn gostus, ond yn dilyn yr hyfforddiant gan Tom rwyf nawr yn ddigon hyderus i fynd ati i addasu gêrs, tynhau neu lacio’r brêcs, a thrwsio pyncjar – diolch am y cyfle i fynychu’r cwrs.”

Gan rannu a datblygu sgiliau sylfaenol – megis defnydd cywir o offer, sut i wirio beic cyn ei ddefnyddio, gwybod sut i lanhau a chynnal gwahanol gydrannau beiciau – gall y staff nawr rhannu’r wybodaeth ddefnyddiol yma efo’u disgyblion, efo rhieni a gwarchodwyr y plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol, yn ogystal â phobl eraill yn eu cymunedau nhw.

Diwrnod grêt, rwyf bellach yn teimlo’n llawer mwy hyderus wrth helpu plant yr ysgol i ddelio â phroblemau cyffredin a syml ar eu beics, yn ogystal â gallu delio â phroblemau gyda fy meic fy hun!
Pennaeth, Ysgol Edern

Trwy addysg mae nerth i ddod yn fwy ymwybodol ac ymarferol

O ganlyniad i’r sesiwn ymarferol yma, cafodd staff o ysgolion yn ardal wledig Gogledd Orllewin Cymru’r ymwybyddiaeth ar sut i ddelio â phroblemau sylfaenol mecanyddol beiciau.

Er bod llawer o bobl yn dysgu sut i reidio beic fel plant, nid yw’r un peth yn wir o ran dysgu sgiliau cynnal a chadw.

Diolch i gefnogaeth Beics Antur, rhan o’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr, sy’n ceisio hybu cyfleoedd datblygu sgiliau ar gyfer eu cymuned leol mewn modd sy’n gynaliadwy, doedd dim angen i’r mynychwyr dod ag unrhyw offer efo nhw.

Yr unig beth oedd angen arnynt oedd yr awch i ddysgu a’r agwedd i gymryd rhan.

“Credaf fod y cwrs cynnal a chadw beics wedi help i mi ddatblygu sgiliau gwerthfawr,” dwedodd aelod o staff Ysgol Glancegin.

“Mi fydda i’n gallu trosglwyddo’r hyn wnes i ddysgu trwy gynnig gwersi i ddysgwyr fy ysgol ar sut i edrych ar ôl beic.”

"Hefyd, rydw i wedi penderfynu yn ystod mis Ebrill i gael diwrnod 'Caru dy Feic' yn fy ysgol, sef dydd ble fydd dysgwyr yn cael dod â beics i fewn a glanhau nhw, a cheisio trwsio unrhyw broblemau sydd ganddynt." 

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf am ein gwaith yng Nghymru