Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i nodi llwybrau newydd a chysylltiadau coll, yn ogystal â chynnig strategaeth hirdymor ar gyfer llywodraethu, cyllido, cynnal a chadw, hyrwyddo a mapio.
Mae'r NCN yn rhan hanfodol o seilwaith a strategaeth teithio llesol y DU, gan annog pobl i gerdded a beicio mewn amgylchedd diogel a darparu mynediad cymudo pwysig.
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod pum miliwn o bobl yn defnyddio'r Rhwydwaith, sy'n gyfanswm o dros 16,000 milltir* o lwybrau di-draffig a llwybrau ar y ffordd sy'n cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd o Gernyw ag Ynysoedd Shetland.
Mae'r teithiau hyn yn arbed dros £550 miliwn i'r economi drwy leihau lefelau gordewdra. Mae gwyliau a diwrnodau allan ar y Rhwydwaith yn cynhyrchu £650 miliwn ac yn cefnogi 15,000 o swyddi. (Ffynhonnell: Sustrans, 2014)
Fel rhan o'r adolygiad, mae Sustrans yn galw ar lywodraethau ac awdurdodau lleol am fuddsoddiad ymroddedig a chyson wrth ddatblygu a chynnal llwybrau cerdded a beicio, gan gynnwys yr NCN.
Dywedodd Xavier Brice, Prif Swyddog Gweithredol Sustrans: "Dyluniwyd llawer o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol presennol i safonau sydd wedi cael eu newid a'u gwella ers hynny. Gyda'r adolygiad hwn, rydym am adeiladu ymhellach ar lwyddiant yr NCN a sicrhau rhwydwaith o lwybrau a llwybrau diogel, cwbl hygyrch ac o ansawdd uchel a fydd yn gwneud cerdded a beicio yn haws i bawb, waeth beth fo'u hoedran a'u galluoedd, ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i fynd ar eu beiciau.
"Gall cerdded a beicio fod o fudd mawr i iechyd a lles y cyhoedd, rhoi hwb i economïau lleol a chreu amgylcheddau lleol mwy gwyrdd. Mae'r NCN yn chwarae rhan fawr wrth gyflawni hyn, gan ei fod yn annog cymudo gweithredol a ffordd iach o fyw, ac yn cyfrannu at dwf economaidd. Mae hyn yn ein hatgoffa bod angen i lywodraethau ar bob lefel flaenoriaethu buddsoddiad ymroddedig a chyson ar gyfer llwybrau cerdded a beicio presennol a fydd yn gwasanaethu cymunedau ledled y DU a chenedlaethau am flynyddoedd i ddod."
Mae Sustrans yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal yr adolygiad, sydd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Medi.
Mae'r Adran Drafnidiaeth, Transport Scotland, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau eu cefnogaeth gyda chyfraniad ariannol tuag at gost yr adolygiad.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth: "Rydym am i feicio ddod yn ddewis naturiol o drafnidiaeth i bobl o bob oed a chefndir.
"Rydym yn benderfynol o wneud beicio a cherdded yn fwy diogel ac yn haws ledled y wlad, a dyna pam rydym wedi darparu £83,900 tuag at gost yr adolygiad pwysig hwn o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a ddylai arwain at uwchraddio teuluoedd, cymudwyr a thwristiaid sy'n ei ddefnyddio bob blwyddyn yn y dyfodol."