Mae Sustrans Cymru yn croesawu'n gynnes gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £38 miliwn o gyllid ar gyfer teithio llesol ledled Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod lefel digynsail o gyllid teithio llesol ar gael bellach i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu seilwaith cerdded a beicio diogel.
Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwelliannau teithio llesol lleol yng Nghymru.
Bydd yn helpu i'w gwneud hi'n fwy diogel i bobl gerdded, beicio neu sgwtera ar gyfer teithiau lleol, gan gynnwys mynd i'r ysgol neu'r gwaith.
Fodd bynnag, bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu'n gyflym i gadw'r momentwm i fynd ar y cynnydd presennol mewn lefelau cerdded a beicio.
Dywedodd Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans Cymru:
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n dewis cerdded, beicio neu sgwtera yn ystod y cyfnod clo.
"Wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i normal ac wrth i'n ffyrdd brysuro, mae'n hanfodol bod pobl yn parhau i weld teithio llesol fel opsiwn diogel a hyfyw, neu ein bod mewn perygl o ddychwelyd i oruchafiaeth car.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru alluogi mwy o bobl i adael eu ceir gartref, a cherdded, beicio neu sgwtera ar gyfer teithiau byr - yn enwedig yn ein trefi a'n dinasoedd.
"Bydd y buddsoddiad o £38 miliwn yn mynd yn bell o ran helpu i wneud ein cymunedau'n lleoedd iachach a hapusach i fyw."