Cyhoeddedig: 22nd MEHEFIN 2020

Sustrans Cymru yn croesawu buddsoddiad o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teithio "Covid-brawf"

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn newydd o £15.4 miliwn o gyllid i greu mwy o le i bobl deithio o dan gyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol.

Female cyclist in cycle lane

Dywedodd Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sustrans Cymru:

"Rydym yn croesawu'n fawr y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n galonogol gweld cerdded a beicio yn ganolog i gynllun y llywodraeth i alluogi pobl i deithio'n ddiogel yn ystod Covid-19.

"Mae cynlluniau'n cael eu gwneud ledled Cymru i wella strydoedd ysgolion, ehangu troedffyrdd, atal parcio ar y stryd a chynyddu parcio beiciau. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i wreiddio arferion newydd ar gyfer y tymor hir, yn ogystal â pharhau i gefnogi gweithwyr allweddol.

"Wrth i'r cyfyngiadau symud ddechrau llacio, bydd cyflawni'r cynlluniau hyn yn gyflym yn allweddol i'w llwyddiant.

"Fodd bynnag, rydym yn gobeithio mai dim ond dechrau cynlluniau tymor hwy yw hyn i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn lleoedd hapusach ac iachach i fyw.

"Rydym yn annog awdurdodau lleol i fanteisio ar y cyfle hwn i fod yn uchelgeisiol iawn gyda'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn cloi mwy o wytnwch i'r system drafnidiaeth.

"Ni allwn fforddio dychwelyd i lefelau blaenorol o ddefnydd ceir yn ein tref a'n dinasoedd, gyda'r effeithiau cynhenid ar ansawdd aer gwael, tagfeydd, iechyd personol ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

"Gall newidiadau a wnaed nawr drwy'r ymateb hwn i'r pandemig ddarparu dull mwy cytbwys a theg o ddefnyddio ein gofod trefol cyfyngedig i fynd o gwmpas."

 

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am yr ymyriadau dros dro yn eich ardal drwy ddefnyddio ein map Lle i Symud

Rhannwch y dudalen hon