Cyhoeddedig: 15th GORFFENNAF 2020

Sustrans Cymru yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am 20mya diofyn mewn ardaloedd preswyl

Mae Sustrans Cymru yn croesawu'n gynnes adroddiad Grŵp Tasglu 20mya Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau i wneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl yng Nghymru.

people cycling on 20 mph road

Cyflymder traffig gormodol mewn ardaloedd trefol yw achos llawer o wrthdrawiadau ffyrdd ac anafiadau yng Nghymru, sy'n dal ymhell uwchlaw'r targedau a osodwyd gan y Llywodraeth.

Bydd gosod terfyn o 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd a strydoedd trefol yn arwain at wneud ffyrdd yn fwy diogel i bobl, yn enwedig plant a phobl ifanc, yn ogystal â mwy o gerdded a beicio.

Dywedodd Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Mae Sustrans yn cefnogi terfyn cyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn gryf i wneud taith pawb yn fwy diogel.

"Mae hwn yn gam enfawr ymlaen ar fater a fydd yn achub bywydau, yn arbennig o fuddiol i'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys plant a phobl ag anableddau.

"Gall 20mya hefyd helpu i leihau goruchafiaeth canfyddedig cerbydau modur ar ein strydoedd gan helpu i greu strydoedd a lleoedd sy'n fwy deniadol i bobl gerdded, beicio a mwynhau.

"Mae rhyngweithio cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd a bydd y mesur hwn yn helpu i sicrhau bod ein strydoedd yn gallu cefnogi hyn yn y dyfodol."


Darllenwch adroddiad terfynol grŵp Tasglu 20mya Cymru.


Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru.

Rhannwch y dudalen hon