Mae Sustrans Cymru wedi lansio eu Maniffesto 2021; Cymru yfory, i bawb. Cynhaliwyd y lansiad yn y Senedd a daeth â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, partneriaid a'r cyhoedd ynghyd.
Mae'r maniffesto ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru yn 2021 yn cynnwys 12 o ofynion. Mae'n galw ar bob plaid wleidyddol i gymryd camau beiddgar ar yr heriau dwys sy'n wynebu Cymru, o newid yn yr hinsawdd a llygredd aer i iechyd corfforol a meddyliol.
Nid oes bwled arian ar gyfer yr heriau hyn. Fodd bynnag, pe bai'r 12 cais yma'n cael eu mabwysiadu byddai'n sicrhau bod Cymru yfory yn lle i bawb.
Yn y maniffesto, mae Sustrans yn tynnu sylw at 12 o ofynion, gan gynnwys Bil Trafnidiaeth Gynaliadwy, mabwysiadu cymdogaethau 20 munud o fewn y system gynllunio a sicrhau bod ein cymunedau'n hygyrch i bawb.
Yn siarad yn y digwyddiad roedd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC. Hefyd yn siarad oedd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol, Huw Irranca-Davies.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC:
"Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy o arian ar deithio llesol nag yr ydym ar ffyrdd. Rydym yn gwario £40 miliwn o bunnoedd y flwyddyn ariannol hon ar deithio llesol, mae hon yn garreg filltir arwyddocaol.
"Mae angen i'r bobl yn yr ystafell hon gyflwyno'r achos dros faniffesto Sustrans, mae hon yn agenda drawsbleidiol ac mae'n hanfodol ei bod yn parhau i fod yn un er mwyn sicrhau bod teithio llesol yn hygyrch i bawb.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau tuag at weithredu terfynau cyflymder 20mya a mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd sy'n arwydd o newid agwedd a diwylliant. Dyna pam mae'r ymyrraeth seilwaith ar feicffordd Ffordd Senghyenydd yn symbol arwyddocaol.
"Mae llawer yn digwydd ond mae llawer mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud."
Dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi Sustrans Cymru:
"Bydd Etholiad Seneddol nesaf Cymru yn un o'r pwysicaf wrth sicrhau yfory ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae angen i ni weld gweithredu beiddgar er mwyn lleihau anghydraddoldebau yn ein cymdeithas fel yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd, llygredd aer a thlodi trafnidiaeth yn ei chael ar ein cenedl. Hoffai Sustrans Cymru weld pleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu'r deuddeg cais yma er mwyn creu gwell yfory, i bawb."