Cyhoeddedig: 10th RHAGFYR 2019

Sustrans yn croesawu Cynllun Aer Glân ond mae angen gweithredu cyflymach

Mae Sustrans yn ymateb i Gynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru.

Heavily congested traffic

Yn dilyn datganiad Cynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru, dywed Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Steve Brooks:

"Mae'r Cynllun Aer Glân yn gam addawol tuag at lanhau'r aer yr ydym yn anadlu ynddo.

"Rydym yn falch bod lleoedd cynaliadwy wrth wraidd y cynllun ac yn croesawu buddsoddiad seilwaith a gwasanaethau ledled Cymru i gefnogi'r gostyngiad mewn llygredd aer.

"Bydd newid moddol o geir i drafnidiaeth fwy cynaliadwy yn mynd yn bell i lanhau ein hawyr. Mae Sustrans yn galw am egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud ar gyfer pob dinas a thref, lle mae pobl yn byw o fewn taith gerdded 20 munud i wasanaethau bob dydd ac nad ydynt yn dibynnu ar y car.

"Mae'n siomedig gweld na fydd ein galwadau am Ddeddf Aer Glân yn cael eu clywed tan dymor nesaf y Cynulliad, a allai fod yn rhy hwyr yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd."

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru

Rhannwch y dudalen hon