Cyhoeddedig: 9th MAI 2019

Sustrans yn croesawu hwb ariannol pellach i drafnidiaeth werdd yng Nghymru

Mae Sustrans Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaed ar 9 Mai 2019 gan Lywodraeth Cymru y bydd cynnydd mewn cyllid teithio llesol yng Nghymru.

Female cyclist in cycle lane

Sustrans yn croesawu hwb ariannol pellach i drafnidiaeth werdd yng Nghymru.

Rydym wedi bod yn galw am gynllun buddsoddi hirdymor mewn teithio llesol ac rydym yn falch o'r cyhoeddiad heddiw fel cam arall i'r cyfeiriad cywir. Rydym wedi rhybuddio o'r blaen bod Cymru'n tanfuddsoddi mewn cerdded a beicio, ac wedi cymharu arafwch y cynnydd yng Nghymru yn erbyn gwariant yn Yr Alban lle mae £16 y pen y pen yn cael ei fuddsoddi.

Fodd bynnag, y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £60miliwn yn ychwanegol dros dair blynedd i wella seilwaith i gerddwyr a beicwyr -  cam a groesawyd yn gynnes gan Sustrans.

Rydym yn falch iawn o weld buddsoddiad pellach a fydd yn trwsio palmentydd, yn gwneud croesfannau'n fwy diogel ac yn adeiladu llwybrau beicio newydd wedi'u gwahanu oddi wrth draffig.
Steve Brooks, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Wrth sôn am y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Mae gorddibyniaeth Cymru ar y car yn niweidio ein hiechyd, yn niweidio ein hamgylchedd ac yn brifo ein heconomi. Mae Sustrans yn falch iawn o weld buddsoddiad pellach a fydd yn trwsio palmentydd, yn gwneud croesfannau'n fwy diogel ac yn adeiladu llwybrau beicio newydd wedi'u gwahanu oddi wrth draffig.

"Er bod arian yn bwysig, nid dyna'r unig ateb. Mae angen i ni sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol hwn yn cael ei wario'n ddoeth. Rydym yn gwybod pan fydd cynghorau yn torri corneli ac yn cyflwyno atebion cyflym, cerddwyr a beicwyr sy'n dioddef. Dyna pam rydyn ni'n croesawu pwyslais Lee Waters ar ariannu cynlluniau ansawdd."

Rhannwch y dudalen hon