Cyhoeddedig: 17th RHAGFYR 2019

Sustrans yn ymateb i Adroddiad Comisiwn De-ddwyrain Cymru

Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi rhyddhau eu diweddariad cynnydd ar atebion amgen i ffordd liniaru'r M4.

Heavily congested traffic

Sefydlwyd y Comisiwn gan y Prif Weinidog Mark Drakeford pan gyhoeddodd na fyddai ffordd liniaru newydd i'r M4 yn cael ei hadeiladu, penderfyniad y mae Sustrans yn ei gefnogi'n gryf.

Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi:

"Mae'n addawol gweld bod y Comisiwn o ddifrif ynglŷn â darparu atebion amgen i'r car i bobl, bydd yr atebion hirdymor a amlygir yn yr adroddiad hwn os cânt eu cyflwyno yn mynd â Chymru gam yn nes at greu system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydym yn gwybod mai plastr glynu yn unig fyddai adeiladu ffordd newydd ar gyfer y problemau tagfeydd sy'n wynebu pobl Casnewydd. Mae angen i ni ddarparu seilwaith cerdded a beicio o ansawdd da iddynt hwy a rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru sy'n gysylltiedig â system drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy a dibynadwy.

"Mae Sustrans yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r Comisiwn wrth iddyn nhw edrych ar eu cynlluniau tymor hir yn fanylach."

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru

Rhannwch y dudalen hon