Cyhoeddedig: 2nd MAI 2019

Sustrans yn ymateb i ddatganiad argyfwng amgylchedd a hinsawdd Senedd y DU

Ddydd Mercher 1 Mai 2019 fe wnaeth ASau basio cynnig gan wneud i Senedd y DU ddatgan "argyfwng amgylcheddol a hinsawdd". Mae Dr Andy Cope, Cyfarwyddwr Mewnwelediad yn Sustrans, yn croesawu'r cyhoeddiad.

Woman walking on city street with people cycling in background
Rhannwch y dudalen hon

Mewn ymateb i'r datganiad gan Senedd y DU, dywedodd Dr Andy Cope, Cyfarwyddwr Mewnwelediad yn Sustrans:

"Rydym yn falch iawn bod y Senedd wedi datgan argyfwng amgylcheddol a hinsawdd.

"Mae'r datganiad hwn yn galw am weithredu brys a chyflym ar allyriadau carbon, gan gynnwys trafnidiaeth, sef yr unig ffynhonnell sectoraidd y mae allyriadau'n parhau i dyfu ohoni.

"Os ydym o ddifrif am gyrraedd y targed di-garbon, nawr yw'r amser i gynyddu cerdded a beicio a lleihau'r defnydd o geir.

"Mae defnydd o ynni ac allyriadau o drafnidiaeth yn cael eu dylanwadu nid yn unig gan effeithlonrwydd technegol a dewis modd ond hefyd gan ddewisiadau ffordd o fyw a ffactorau economaidd-gymdeithasol. Er mwyn ei gwneud hi'n hawdd ac yn ddeniadol i bobl ledled y DU ddewis ffyrdd egnïol a glanach o deithio ar gyfer teithiau bob dydd, mae angen gweithredu ar draws y llywodraeth a buddsoddiad ar raddfa fawr mewn cerdded a beicio."

Cysylltwch â'n tîm cyfryngau i ddarganfod mwy