Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau eu cyllideb gyntaf ers iddyn nhw ddatgan Argyfwng Hinsawdd.
Yn dilyn y rhyddhau, dywedodd Ellen Jones, Uwch Swyddog Polisi Sustrans Cymru:
"Rydym yn croesawu'r ffocws cynyddol yn y gyllideb i gefnogi mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cynnwys gwneud teithio cynaliadwy yn fwy hygyrch i bawb, cefnogi mynediad i fannau gwyrdd yn ein cymunedau, a buddsoddi yn ein cymdogaethau.
"Ond, os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â lleihau effeithiau'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni weld canran llawer mwy o'r gyllideb drafnidiaeth yn cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy a llai o fuddsoddi mewn adeiladu ffyrdd newydd.
"Er mwyn ei gwneud yn opsiwn hawdd i bobl adael eu ceir gartref, mae angen i ni weld isadeiledd cerdded a beicio o ansawdd da, wedi'i gysylltu â system drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, ddibynadwy a fforddiadwy.
"Er mwyn adeiladu Cymru gydnerth sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen cyllideb arnom sy'n adlewyrchu brys yr argyfwng hinsawdd yr ydym ynddo."