Cyhoeddedig: 14th TACHWEDD 2019

Sustrans yn ymateb i'r adroddiad Lancet Countdown on Health and Climate Change

Mae Dr Andy Cope, Cyfarwyddwr Mewnwelediad yn Sustrans yn ymateb i adroddiad Lancet Countdown on Health and Climate Change, gan groesawu galwad yr adroddiad am weithredu ar frys ar yr argyfwng hinsawdd a galw am fuddsoddiad tymor hir parhaus mewn mathau glanach o drafnidiaeth, gan gynnwys cerdded a beicio.

People walking and on bikes crossing bridge in urban setting

Wrth ymateb i adroddiad 'The Lancet Countdown on Health and Climate Change', dywedodd Dr Andy Cope, Cyfarwyddwr Mewnwelediad yn Sustrans:

"Rydym yn croesawu'n fawr alwad yr adroddiad am weithredu ar frys ar yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig gan fod y DU ar ei hôl hi o'n cymdogion Ewropeaidd wrth gymryd camau radical i ffrwyno allyriadau niweidiol.

"Yr argyfwng hinsawdd yw her amgylcheddol ac iechyd fwyaf yr21ain ganrif.

"Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 26% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU, gyda'r prif ffynonellau yn geir petrol a disel.

"Bydd datgarboneiddio'r sector trafnidiaeth yn gyflym yn gofyn am orfodi gwaharddiad ar y cerbydau sy'n llygru fwyaf yn gynt o lawer na 2040 ac, yn bwysicaf oll, gostyngiad sylweddol mewn teithiau car.

"Rydym yn annog Llywodraeth nesaf y DU i roi terfyn ar adeiladu mwy o ffyrdd ar gyfer ceir ac yn lle hynny darparu buddsoddiad tymor hir, parhaus mewn mathau glanach o drafnidiaeth, gan gynnwys cerdded a beicio.

"Dylai hyn gynnwys egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud ar gyfer pob dinas a thref fel bod teithiau ar gyfer anghenion bob dydd ar droed neu ar feic yn norm ar draws y DU."

Darganfyddwch fwy am ein gwaith

Darllenwch ein maniffesto yn gofyn i'r llywodraeth

Rhannwch y dudalen hon