Cyhoeddedig: 13th MEHEFIN 2019

Ymateb Sustrans i bleidlais yr Alban ar 20mya

Mae Sustrans Scotland yn siomedig iawn pan wrthododd Senedd yr Alban y Bil 20mya (ffyrdd cyfyngedig).

people cycling on 20 mph road

Roeddem wedi gweithio ochr yn ochr â llawer o gyrff ac elusennau trydydd sector i gyflwyno tystiolaeth o fanteision 20mya wrth wneud ein strydoedd yn fwy diogel, a'n trefi a'n dinasoedd yn well i bobl.  Mae hyn yn parhau i fod yn sefyllfa Sustrans a bydd yn parhau i eirioli am 20mya fel un o'r ffyrdd gorau o wella lleoedd i bobl sy'n cerdded ac yn beicio.

Rydym yn croesawu'r cyfraniadau a wnaed gan nifer o Aelodau o'r Senedd, o'r SNP, gan Lafur yr Alban a chan Gwyrddion yr Alban i gefnogi'r Bil.  Mae'n amlwg nad mater iechyd yn unig yw diogelwch ar y ffyrdd, ond hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, ac yn canmol yr Aelodau Cynulliad a amlygodd hyn.

Rydym hefyd yn cael ein calonogi gan y gefnogaeth eang i 20mya mewn egwyddor, hyd yn oed ymhlith llawer nad ydynt yn cefnogi'r Bil 20mya (ffyrdd cyfyngedig).

Rydym yn parchu pleidlais y senedd a byddwn yn myfyrio ar y bleidlais yn erbyn. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gydag unrhyw awdurdodau lleol sydd â diddordeb sy'n ceisio cyflwyno 20mya.

Rhannwch y dudalen hon