Cyhoeddedig: 10th MEHEFIN 2019

Ymateb Sustrans i Gynllun Beicio i'r Gwaith newydd

Wrth ymateb i ddiweddariadau y Llywodraeth i'r Cynllun Beicio i'r Gwaith, dywedodd Prif Weithredwr Xavier Brice yn Sustrans:

man in shirt and tie with his bike outside office building

"Rydym yn croesawu'n gynnes ganllawiau newydd y Cynllun Beicio i'r Gwaith a gyhoeddwyd heddiw sy'n tynnu sylw at uchelgais Llywodraeth y DU i wneud beicio yn weithgaredd i bawb.

"Bydd cael gwared ar y cap y gall gweithiwr ei wario ar feic yn agor seiclo i fwy o bobl, gan eu galluogi i brynu beiciau wedi'u haddasu'n arbennig neu drydanol, nad oedd yn bosibl o'r blaen oherwydd eu cost uchel.

"Mae annog mwy o bobl i fynd ar feiciau yn golygu y gall mwy o bobl fwynhau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae Sustrans yn brysur yn gwneud llwybrau ar y Rhwydwaith yn fwy addas i bawb trwy gael gwared ar 16,000 o rwystrau, yn ogystal â chynyddu nifer y bobl sy'n gallu teithio i'r gwaith gyda gwên ar eu hwynebau.

"Does dim amheuaeth bod beicio'n dda i'n hiechyd a'r amgylchedd a dyna pam yr hoffem i bob cyflogwr a'u gweithlu fanteisio i'r eithaf ar y Cynllun. Yn y dyfodol, hoffem weld cynlluniau tebyg ar gael i'r rhai nad ydynt mewn gwaith fel y gall mwy o bobl gael mynediad i feiciau waeth beth fo'u hoedran neu statws cyflogaeth."

Am ragor o wybodaeth, delweddau a chyfweliadau, cysylltwch â

Rhannwch y dudalen hon